Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru'n lansio Rhaglen Ysgoloriaeth Cyfraith Hawliau Plant Rodham Clinton

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Ysgrifennydd Hillary Rodham Clinton, yr Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a'r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn lansio rhaglen gyntaf erioed Ysgoloriaeth PhD drwy Ymchwil Hillary Rodham Clinton.

Cydweithrediad unigryw yw hwn rhwng Hillary Clinton, Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru, a'i nod yw cynyddu pwysigrwydd hawliau plant.

Hon yw'r rhaglen gyntaf i'w chyhoeddi ers i'r Ysgrifennydd Clinton ddadorchuddio enw newydd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe fel Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym mis Hydref 2017.

Wrth sôn am y cyhoeddiad, meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Y llynedd gwelwyd dechrau'r hyn y gwyddem y byddai'n bartneriaeth ddofn a phwysig rhwng yr Ysgrifennydd Clinton a Phrifysgol Abertawe er mwyn datblygu hawliau dynol plant. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen hon, a arweinir gan Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn Abertawe, yn hollbwysig ac yn arwydd o'r lle canolog a roddir i hawliau plant wrth lunio polisi a deddfwriaeth yng Nghymru".

Ychwanegodd: "Mae'n adeiladu ar waith arloesol ein Harsyllfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, ac rydym yn falch o'r rhaglen hon a fydd yn cynnwys ysgolheigion o'n sefydliadau partner rhyngwladol ym Mhrifysgol Texas Austin, Prifysgol Columbia a Phrifysgol Emory, Atlanta".

Yn ogystal â'r ysgolheigion PhD, bydd y rhaglen ymchwil yn datblygu adroddiadau, seminarau lledaenu a chrynodebau polisi yn y meysydd canlynol:

  • Gwreiddio hawliau plant mewn polisi ac ymarfer ar lefel lywodraethol
  • Datblygu plant fel dinasyddion llawn mewn democratiaethau
  • Datblygu Senedd Ieuenctid Cymru
  • Effaith cyni cyllidol ar wireddu hawliau plant
  • Hawliau plant ac ynni a diogelwch
  • Hawliau plant a'r amgylchedd
  • Hawliau plant a mynediad i'r system gyfiawnder