Gwobrau ar gyfer gwaith ymchwilwyr ar iechyd pobl hŷn a sglerosis ymledol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Abertawe, un sy’n gweithio ar hydradiad mewn pobl hŷn a’r llall sy’n gweithio ar sglerosis ymledol, wedi derbyn gwobrau gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, gan ganiatáu iddynt rannu a datblygu eu gwaith gydag arbenigwyr eraill.

Diben y gwobrau yw cefnogi ymchwilwyr yng nghyfnod cynnar eu gyrfa.

Mae Alecia Cousins, a enillodd ysgoloriaeth deithio gwerth £1000, wrthi’n edrych ar sut y mae lefelau hydradiad mewn pobl hŷn yn gysylltiedig â’u perfformiad gwybyddol a’u hiechyd cardiofasgwlaidd. Mae pobl hŷn yn wynebu risg uchel o ddiffyg hylif, felly mae’n hanfodol deall sut y mae’n effeithio ar eu hiechyd.

Defnyddiodd Alecia ei hysgoloriaeth i fynychu cynhadledd wyddonol bwysig yn Boston, lle cyflwynodd ei hymchwil i’w chyd-arbenigwyr.

Mae Rhian Evans, a gafodd wobr ddewisol o £600, yn gwneud ymchwil ar sglerosis ymledol (MS), sef cyflwr lle mae system imiwnedd y corff ei hun yn ymosod ar gelloedd yr ymennydd ac yn eu lladd. Mae hi’n archwilio sut y mae’r broses hon yn digwydd, gyda’r nod o nodi targedau ar gyfer triniaethau.   

Helpodd gwobr Rhian iddi ariannu ymweliad ymchwil i weld grŵp o arbenigwyr MS yn Belfast, a arweinir gan yr ymchwilydd o fri rhyngwladol, Dr Denise Fitzgerald.

600 x 462

Llun: o'r chwith, Bob Clarke, Alecia Cousins, Rhian Evans, Jenny Aubrey

Dyfarnwyd y gwobrau gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, ar ôl cystadleuaeth a oedd ar agor i ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sydd yng nghyfnodau cynnar eu gyrfa. 

Y Cwmni yw “Cymdeithas Anrhydeddus y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg”, ac un o’i nodau yw “hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau”.

 

Dywedodd Alecia Cousins o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe:

“Rwyf yn ddiolchgar iawn i Gwmni Lifrai Cymru am gefnogi’r gwaith ymchwil hwn ar hydradiad mewn pobl hŷn.

Galluogodd y wobr i mi rannu fy ymchwil ag arbenigwyr eraill yn y maes. Mae cydweithredu rhyngwladol yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â chlefydau, a dyna pam y mae mor bwysig mynd i ddangos i ymchwilwyr eraill yr hyn yr ydym yn ei wneud yma yn Abertawe.   

Dywedodd Rhian Evans o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe:

"Mae MS yn effeithio ar 2 filiwn o bobl ledled y byd.  Rwyf yn archwilio sut y mae’r celloedd imiwn yn peri i’r ymennydd farw, gwybodaeth sydd â’r potensial i arwain at driniaethau newydd.

Mae teithio i Belfast i weithio gydag arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang yn fy helpu i ddatblygu fy ymchwil ymhellach. Hoffwn ddiolch i Gwmni Lifrai Cymru am roi’r cyfle hwn imi."

Dywedodd Jenny Aubrey o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru:

“Un o nodau’r cwmni yw annog a chefnogi myfyrwyr i wneud cynnydd gyda phrosiect penodol. Mae Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru’n codi’r arian ar gyfer grantiau trwy gynnal ciniawau, cyngherddau a digwyddiadau elusennol eraill.

Mae ymchwil Alecia a Rhian yn hanfodol, ac maent yn amlwg yn frwdfrydig dros eu pynciau. Mae’n bleser gennym allu cefnogi eu hymdrechion i feithrin cysylltiadau newydd ag arbenigwyr eraill yn eu meysydd.”

 600 x 358

Llun: Alecia Cousins (canol) gyda Bob Clarke a Jenny Aubrey yn y labordy 

Ymchwil Abertawe

Darllenwch fwy - Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru

600 x 141