Effaith Economaidd Prifysgolion Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ymchwil wedi dangos bod prifysgolion Cymru yn cynhyrchu dros £5bn i economi Cymru a chefnogi bron i 50,000 o swyddi yng Nghymru

Mewn adroddiad annibynnol sy’n cael ei rhyddhau heddiw gan Brifysgolion Cymru dangosai bod prifysgolion yn parhau i gael effaith arwyddocaol ac eang ar economi Cymru, cymunedau ac unigolion, gan greu degau o filoedd o swyddi ac ysgogi gweithgaredd economaidd mewn cymunedau lleol, ynghyd ar economi ehangach.

Un canfyddiad o’r ymchwil a gafodd ei arwain gan Viewforth Consulting oedd bod gweithgaredd y prifysgolion, myfyrwyr a theulu a ffrindiau'r myfyrwyr rhyngwladol wedi cynhyrchu dros £5bn o allbwn i Gymru yn 2015/16. Roedd y cyfraniad  economaidd sylweddol wedi ei gynhyrchu o wariant ar y campysau a thu hwnt gan greu dros £2.67bn o Werth Ychwanegol Crynswth (GVA) a 49,216 o swyddi.

Darganfuwyd yr ymchwil fod prifysgolion Cymru eto wedi cynyddu ei effaith a chyfrannu i ffyniant ein heconomi er gwaethaf  ein bod mewn  cyfnod o amgylchedd heriol ar ansicrwydd sy’n peri o ganlyniad i Brexit

Fe wnaeth y dadansoddiad hefyd dangos bod yr effaith i’w weld ar draws Cymru gyda £561m GVA wedi ei gynhyrchu a 11,024 o swyddi wedi ei greu mewn meysydd nad oes presenoldeb Prifysgol. Mae'r dadansoddiad o’r effaith economaidd y Prifysgolion yng Nghymru  ar draws pob rhan o’r wlad yn dangos bod pob rhan o Gymru yn rhannu’r buddion, gan gynnwys ardaloedd lle nad oes prifysgol yn bodoli.

Fel sefydliadau sy’n enwog ar draws y byd, mae prifysgolion hefyd yn cyfrannu’n sylweddol i fasnach Cymru ac enillion allforio. Trwy weithgaredd rhyngwladol cynhyrchwyd Prifysgolion Cymru dros £544m sy’n cyfateb i 4.1% o allforion nwyddau o Gymru yn 2016.

Dywedodd Julies Lydon, Cadeirydd Prifysgol Cymru:

Mae’r adroddiad yn dangos gwerth sylweddol y Prifysgolion, a wnaeth cynhyrchu allbwn o dros £5bn i Gymru, a chreu bron i 50,000 o swyddi. Nid yw'r rhain niferoedd bach, a dangos y ffordd mae prifysgolion yn ffynnu yn unigol a chenedlaethol, cynnig cyfleoedd trwy gyflogaeth a chynhyrchu effaith arwyddocaol yn eu cymunedau fel angorfeydd lleol ar gyfer arwain twf economaidd yn rhanbarthol a chymunedol. 

Rwy’n falch o allu profi bod ein prifysgolion yn parhau ei gwaith ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r trefi a rhanbarthau lle nad oes campws prifysgol yn gyfagos yn dal i weld buddion o’r gwerth a gynhyrchir gan y sector gyda dros 21% o’r holl GVA wedi ei greu gan brifysgolion a gynhyrchir mewn ardaloedd lle nad oes presenoldeb prifysgolion

Dweddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet ar Addysg

Mae’r adroddiad yn dangos gwerth sylweddol y prifysgolion, a wnaeth cynhyrchu allbwn o dros £5bn i Gymru, a chreu bron i 50,000 o swyddi. Nid yw'r rhain niferoedd bach, a dangos y ffordd mae prifysgolion yn ffynnu yn unigol a chenedlaethol, cynnig cyfleoedd trwy gyflogaeth a chynhyrchu effaith arwyddocaol yn eu cymunedau fel angorfeydd lleol ar gyfer arwain twf economaidd yn rhanbarthol a chymunedol. 

Rwy’n falch o allu profi bod ein prifysgolion yn parhau ei gwaith ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r trefi a rhanbarthau lle nad oes campws Prifysgol yn gyfagos yn dal i weld buddion o’r gwerth a gynhyrchir gan y sector gyda dros 21% o’r holl GVA wedi ei greu gan Brifysgolion a gynhyrchir mewn ardaloedd lle nad oes presenoldeb Prifysgolion

Ian Price, Cyfarwyddwr, CBI Cymru

“Mae’r adroddiad yn dangos yr effaith economaidd  sylweddol a phellgyrhaeddol sy’n cael ei gynhyrchu gan brifysgolion Cymru. Fel busnesau mae prifysgolion yn gwneud llawer i gefnogi’r economi lleol a chenedlaethol trwy greu swyddi a chenhedlaeth o wariant trwy ei gweithgareddau yn datblygu sgiliau sydd yn y pendraw yn fuddiol i fusnesau a  chymunedau ar draws Cymru

Prif Ymchwilydd astudiaeth, Ursula Kelly o Viewforth Consulting said

“Mae’r adroddiad yn cadarnhau'r rôl allweddol mae Addysg Uwch yn chwarae i economi Cymru. Mae miloedd o bobl yn astudio ym Mhrifysgolion Cymru’n flynyddol gan gynyddu Sylfaen sgiliau yng Nghymru. Ynghyd ac ymchwil prifysgol sy’n ategu datblygiadau busnes ac arloesi, mae prifysgolion yn bwysig i gymunedau ar draws Cymru gan gynhyrchu allbwn, GVA a chyflogadwyedd mewn ardaloedd lle nad oes brifysgol.