Dyfarniad o £3m i Brifysgol Abertawe er mwyn cyflawni ei gweledigaeth o helpu i lunio diwydiant dur a metelau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dur yw'r deunydd uwch mwyaf cyffredin ac ailgylchadwy yn y byd. Mae'n sylfaen diwydiant gweithgynhyrchu'r DU. Felly, mae Prifysgol Abertawe wrth ei bodd bod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi dyfarnu £3 miliwn mewn cyllid cyfalaf i'r Sefydliad Dur a Metelau i gefnogi ei weledigaeth o helpu i lunio diwydiant dur a metelau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Sami opening corridor shot

O ganlyniad i'r cyllid hwn, bydd y Sefydliad yn gallu helpu diwydiant cynhyrchu haearn a dur y DU i drawsnewid yn sector carbon isel, sy'n gwneud defnydd effeithlon o adnoddau, gan ddefnyddio gwastraff cymdeithas, megis plastigion, nad oes modd ei ailgylchu ar hyn o bryd.

 

 

Diben y cyllid ychwanegol yw canolbwyntio ar ddulliau call o brosesu dur i greu cynhyrchion gwerth uchel, gan gynnwys dur ar gyfer cerbydau trydan, adeiladau fforddiadwy sy'n ystyriol o'r amgylchedd a phecynnu cynaliadwy nad oes modd ei gynhyrchu ond drwy ddefnyddio dur. Y nod yw sicrhau bod diwydiant dur y DU yn parhau'n gystadleuol yn y bedwaredd oes ddiwydiannol, a'n bod yn gallu diwallu'r rhan fwyaf o'n hanghenion dur drwy weithgynhyrchwyr y DU.

Mae'r cyllid hwn yn cefnogi pum maes ymchwil allweddol, h.y. dulliau carbon niwtral o gynhyrchu dur, technegau optimeiddio aloeon uwch, perfformiad mewn amgylcheddau eithafol, caenau metelig newydd a gwyddoniaeth ddelweddu.

SaMi launch 3

Gwneir yr ymchwil gan arbenigwyr technoleg ac arloesi o sefydliadau blaenllaw ac amrywiol sy'n cydweithio yn y Sefydliad Dur a Metelau, gan ddarparu’r ymchwil angenrheidiol i ddiwydiannu'r cynhyrchion a'r prosesau hyn.

Bydd y cyfleusterau yn y Sefydliad yn darparu cyfarpar ar raddfa ymchwil ac ar gyfer profi prosesau ar raddfa fwy cyn masnacheiddio.

 

Meddai Brian Edy, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dur a Metelau: 

"Mae'r cyllid a ddyfarnwyd i'r Sefydliad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru'n cynrychioli camau cynnar y broses o wireddu syniadau, gan greu diwydiant dur a metelau ar gyfer yr ugeinfed ganrif yng Nghymru a'r DU a fydd yn gynaliadwy am genedlaethau i ddod.

"Mae cynnig cynhyrchion a gwasanaethau newydd i ddiwydiant yn bwysig, ond mae angen i ni ystyried beth gallwn ei wneud i leihau gwastraff hefyd, gan wella iechyd a lles ein rhanbarthau.

"Beth sy'n llai amlwg, efallai, yw bod modd defnyddio'r broses cynhyrchu dur ffwrnais chwyth i ddatrys problemau gwastraff cymdeithasol drwy ddefnyddio deunyddiau gwastraff sy'n cynnwys carbon (fel plastigion) yn lle glo. Bydd modd cyflawni hyn yn gyflym ac mae eisoes ar waith yn Japan a'r Almaen.

"Yr hyn sy'n newydd yw sut gallem ddefnyddio'r gwastraff fel adnoddau wedyn. Gallwn ddefnyddio gwastraff slag o'r broses gweithgynhyrchu dur i gynhyrchu deunyddiau inswleiddio yn lle sbwng plastig hylosg. Gallwn ailgylchu ynni gwres i wresogi cartrefi a dechrau trawsnewid gweithfeydd dur yn ganolfannau ynni adnewyddadwy i gynhyrchu pŵer o'r haul y gwynt a phŵer thermodrydanol.

"Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i ddatblygu'r syniadau arloesol hyn ymhellach."  

Llun 1: (o'r chwith i'r dde) Mr Bimlendra Jha, Prif Swyddog Gweithredol, Tata Steel UK, Yr Athro B Davies, Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe, a Carwyn Jones Prif Weinidog Cymru.

Llun 2: (o'r chwith i'r dde), Yr Athro B Davies, Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe, Mr Bimlendra Jha, Prif Swyddog Gweithredol, Tata Steel UK a Carwyn Jones Prif Weinidog Cymru.

 Os hoffwch gael gwybod sut allwch chi gymryd rhan, cysylltwch â