Dotiau Cwantwm: nanoronynnau bach yn deillio o ddail te'n dinistrio celloedd canser yr ysgyfaint

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd a wnaed ar y cyd gan dîm o Brifysgol Abertawe a dwy brifysgol yn India, wedi dangos bod nanoronynnau'n deillio o ddail te'n atal celloedd canser yr ysgyfaint rhag tyfu, gan ddinistrio hyd at 80% o'r celloedd hyn.

Darganfuwyd hyn gan y tîm pan oeddent yn profi dull newydd o gynhyrchu math o nanoronyn a elwir yn ddotiau cwantwm. Mae'r gronynnau bach hyn yn mesur llai na 10 nanometr. Mae blewyn dynol yn 40,000 nanometr o drwch.

Er bod nanoronnynau eisoes yn cael eu defnyddio mewn gofal iechyd, dim ond yn ddiweddar y mae dotiau cwantwm wedi denu sylw gan ymchwilwyr. Maent eisoes yn ymddangos yn addawol iawn o ran eu defnyddio mewn sawl ffordd wahanol, o gyfrifiaduron a chelloedd solar i ddelweddu tiwmorau a thrin canser.  

600 x 292

Llun: pa mor fach yw dotiau cwantwm?

Gellir cynhyrchu dotiau cwantwm drwy ddilyn proses gemegol, ond mae hon yn broses gymhleth a drud ac mae ganddi sgil-effeithiau gwenwynig. Felly aeth y tîm ymchwil ati, dan arweiniad Abertawe, i archwilio dull amgen yn seiliedig ar blanhigyn nad yw'n wenwynig o gynhyrchu'r dotiau, gan ddefnyddio echdynion dail te.

Mae dail te’n cynnwys amrywiaeth o gyfansoddion, gan gynnwys polyffenolau, asidau amino, fitaminau a gwrthocsidyddion. Cymysgodd yr ymchwilwyr echdynion dail te gyda sylffad cadmiwm (CdSO4) a sylffid sodiwm (Na2S), gan adael i'r toddiant ori, proses sy'n achosi i ddotiau cwantwm ffurfio. Yna defnyddiwyd y dotiau ar gelloedd canser yr ysgyfaint.

Canfuwyd y canlynol: 

  • Mae dail te'n cynnig dull rhatach, symlach a llai gwenwynig o gynhyrchu dotiau cwantwm, o'u cymharu â chemegau, sy'n cadarnhau canlyniadau ymchwil eraill yn y maes.
  • Mae dotiau cwantwm a wneir o ddail te'n atal celloedd canser yr ysgyfaint rhag tyfu. Treiddiodd y dotiau i nanofandyllau'r celloedd canser, gan ddinistrio hyd at 80% ohonynt. Cafodd y tîm ei synnu gan y canfyddiad newydd sbon hwn.

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn “Applied Nano Materials”, yn fenter ar y cyd rhwng arbenigwyr o Brifysgol Abertawe a chydweithwyr o ddwy Brifysgol yn India. 

600 x 281

Llun:  Treiddiodd y dotiau i nanofandyllau'r celloedd canser, gan ddinistrio hyd at 80% ohonynt

Meddai Dr Sudhagar Pitchaimuthu o Brifysgol Abertawe, prif ymchwilydd y prosiect, a Chymrawd Seren y Dyfodol Sêr Cymru-II:

"Cadarnhaodd ein hymchwil dystiolaeth flaenorol y gall echdynion dail te gynnig dull nad yw'n wenwynig o wneud dotiau cwantwm yn lle defnyddio cemegau. 

Y peth mwyaf annisgwyl i ddod o'r ymchwil, fodd bynnag, oedd y ffaith i’r dotiau atal celloedd canser yr ysgyfaint rhag tyfu. Nid oeddem wedi disgwyl hyn.

Dangosodd y dotiau cwantwm CdS a oedd yn deillio o echdynion dail te belydru fflworoleuol eithriadol mewn bio-delweddu o'u cymharu â nanoronynnau CdS confensiynol. 

Felly mae dotiau cwantwm yn cynnig llwybr addawol iawn i'w archwilio ar gyfer datblygu triniaethau canser newydd.  

Hefyd mae'n bosib y bydd modd iddynt gael eu defnyddio mewn ffyrdd eraill, er enghraifft mewn paent gwrth-ficrobaidd a ddefnyddir mewn theatrau llawdriniaeth, neu mewn eli haul."   

Amlinellodd Dr Pitchaimuthu gamau nesaf yr ymchwil:

"Gan adeiladu ar y darganfyddiad cyffrous hwn, y cam nesaf yw uwchraddio'n gweithrediad, gobeithio gyda chymorth cydweithredwyr eraill. Rydym yn awyddus i archwilio rôl echdynion dail te mewn delweddu celloedd canser, a'r rhyngwyneb rhwng dotiau cwantwm a'r gell ganser.

Hoffem sefydlu "ffatri dotiau cwantwm" a fydd yn caniatáu i ni archwilio mewn mwy o fanylder y ffyrdd y gellir eu defnyddio."

600 x 368

Llun: ymchwilwyr Prifysgol Abertawe: (o'r chwith) Dr Catherine Suenne De Castro, Dr Matthew Lloyd Davies, Dr Sudhagar Pitchaimuthu

Yr ymchwil:

“Green-Synthesis-Derived CdS Quantum Dots Using Tea Leaf Extract:Antimicrobial, BioImaging and Therapeutic Applications in Lung Cancer Cells”.  Applied Nano Materials, Rhifyn Ebrill 2018

Yr ymchwilwyr: Kavitha Shivaji, Suganya Mani, Mythili Gnanamangai Balasubramanian (K. S. Rangasamy College of Technology, Tamil Nadu, India);  Ponnosamy Ponmurugan (Bharathiar University, Coimbatore, India); Catherine Suenne De Castro, Matthew Lloyd Davies, Sudhagar Pitchaimuthu (SPECIFIC, Prifysgol Abertawe).

Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe - darllenwch fwy

600 x 450

Llun: Cadarnhaodd yr hymchwil dystiolaeth flaenorol y gall echdynion dail te gynnig dull nad yw'n wenwynig o wneud dotiau cwantwm yn lle defnyddio cemegau.