Dathlu cyflawniadau myfyrwyr yng nghynulliadau graddio’r gaeaf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yr wythnos nesaf, caiff cyflawniadau dros 1,800 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig eu dathlu yng nghynulliadau graddio Prifysgol Abertawe.

Cynhelir cynulliadau'r gaeaf, ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau'n llwyddiannus ers mis Gorffennaf 2017, yn Neuadd Fawr Campws y Bae o ddydd Llun 8 Ionawr i ddydd Mercher 10 Ionawr.

Bydd teuluoedd a ffrindiau'r myfyrwyr yn bresennol hefyd, yn ogystal â swyddogion y Brifysgol, staff academaidd, cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr a swyddogion a phwysigion dinesig.

Bydd darpar-raddedigion yn derbyn eu graddau o:

• Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yr Adran Addysg Barhaus Oedolion, y Coleg Peirianneg, y Coleg Gwyddoniaeth, ac Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ar ddydd Llun.

• Yr Ysgol Reolaeth a Choleg y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ddydd Mawrth.

• Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ddydd Mercher.

Meddai'r Athro Richard B. Davies, is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i'n myfyrwyr sy'n graddio, a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.

"Mae gennym hanes balch o baratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant personol a phroffesiynol eithriadol ers 1920. Gobeithio y bydd y graddedigion eleni'n gallu parhau i ymfalchïo ym Mhrifysgol Abertawe, wrth i ni barhau i adeiladu ar lwyddiant ysgubol y blynyddoedd diweddar”.

Mi fydd modd gwylio’r holl seremonïau yn fyw ar ein gwefan.

Graduation image