Darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn anelu i ddarparu cymorth meddygol i bobl yn Basra dros y we

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae doctor arobryn sy’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe yn gobeithio darparu gwasanaeth meddygol i bobl yn Irac trwy ddefnyddio Skype.

Dr Laith AllRubaiy with young patientsYn ddiweddar, teithiodd Dr Laith AlRubaiy, sy’n ddarlithydd gastroenteroleg yn Ysgol Feddygaeth Mhrifysgol Abertawe ac yn ddoctor yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, i gyrion Basra er mwyn helpu trin teuluoedd sydd wedi’u dadleoli yn sgil y rhyfel. Gweithiodd gyda’r elusen AMAR International a’u clinig iechyd teithiol er mwyn trin cannoedd o gleifion mewn ardaloedd sydd wedi’u dinistrio gan y rhyfel.

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ochr yn ochr â swyddogion yn Irac i geisio sefydlu'r system a fydd yn gweithio i helpu i wella bywydau rhai o ddinasyddion tlotaf y wlad.

Yn ogystal â darparu brechiadau iechyd i blant tra yn Basra, roedd Dr AlRubaiy hefyd yn trin cleifion oedd yn dioddef â heintiau'r frest, dolur rhydd a chlefydau heintus. Yn ystod ei daith i Irac, cafodd Dr AlRubaiy ei wahodd gan Gymdeithas Feddygol Irac i draddodi darlithoedd i staff meddygol.

Yn 2017, cafodd Dr AlRubaiy ei enwi'n Gastroenterolegwr Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas Gastroenteroleg Prydain. Ac yntau'n hanu o Irac, graddiodd Dr AlRubaiy o Ysgol Feddygaeth Basra yn 2003, a dechreuodd weithio yng Nghymru yn 2007. Ers hynny mae wedi gweithio ym Mangor, Abertawe, Llanelli a Merthyr Tudful.

Yn Basra, roedd gan ysbytai offer a staff da, ond y broblem oedd nad oedd modd sicrhau gwasanaeth parhaus oherwydd cyflenwad trydan anghyson a phroblemau gyda chynnal a chadw offer.

Dr Laith AlRubaiy treating a young childMeddai Dr AlRubaiy: “Mae llawer o rwystrau, ond mae pawb yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal gorau posib.

“Pan adewais i Basra yn 2005, roedd bwlch enfawr ym maes addysg iechyd, ond mae hynny wedi gwella rhywfaint erbyn hyn, a ‘dwi’n obeithiol iawn ar gyfer y dyfodol.

“Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda doctoriaid a swyddogion yn Irac a’r Deyrnas Gyfunol er mwyn sefydlu clinigau Skype a fydd yn gallu cynnig gwasanaeth meddygol i bobl difreintiedig Irac. Rwyf hefyd yn y broses o sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect, yn ogystal â threfnu staff, offer a phob dim arall fydd angen i sefydlu’r clinig”.