Cyrsiau iaith Saesneg am ddim ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

O fis Ionawr i fis Mawrth 2018, mae Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS) Prifysgol Abertawe'n cynnig dosbarthiadau iaith Saesneg am ddim.

ELTS logo Cynhelir y dosbarthiadau o ddydd Mawrth, 30 Ionawr tan ddydd Gwener, 23 Mawrth. Bwriedir y cwrs Saesneg Cyffredinol hwn ar gyfer oedolion o dramor sydd am wella'u sgiliau iaith Saesneg, a bydd yn eu helpu i gyfathrebu'n fwy effeithiol, gan gynnwys gwaith ar siarad, gwrando, darllen, gramadeg ac ynganu.

Mae'r Brifysgol yn ymrwymo'n gryf i'r gymuned leol, a gobeithir y bydd y cyfle hwn yn ehangu ei chysylltiadau 'r bobl sy'n byw yn lleol. Cynigir y cwrs am ddim a chaiff ei addysgu gan grŵp o athrawon dan hyfforddiant sy'n astudio Cwrs  CELTA Caergrawnt, a ddarperir gan dîm hyfforddwyr athrawon Prifysgol Abertawe.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm hyfforddi athrawon ELTS drwy ffonio 01792 295391 neu e-bostio p.l.neville@Abertawe.ac.uk.