Cyn-fyfyriwr Sal yn helpu i greu cyfeillgarwch newydd rhwng prifysgolion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae partneriaeth academaidd drawsiwerydd wedi'i sefydlu diolch i gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe.

Dychwelodd Sal Lalani, a raddiodd gyda gradd mewn Economeg ym 1967, i Abertawe yng nghwmni arweinwyr ac aelodau o staff allweddol o Brifysgol Talaith Montana. 

600 x 418

 Y dirprwyon o Brifysgol Talaith Montana gydag aelodau o staff uwch o Brifysgol Abertawe yn ystod eu hymweliad â champws Singleton.

Daethant i ymweld â champws Abertawe gan gynnal trafodaethau ynghylch meithrin cysylltiadau a phartneriaethau pellach rhwng y ddau sefydliad. 

Mae'r dyn busnes a'r dyngarwr Mr Lalani yn aelod o Goleg Bwrdd Anrhydeddau Montana ac mae wedi bod yn ganolog i ddatblygu'r cydweithrediad. 

Treuliodd y parti, a oedd yn cynnwys academyddion uwch o golegau'r Celfyddydau a Phensaernïaeth, Addysg, Iechyd a Datblygiad Dynol, Peirianneg, Llenyddiaeth a Gwyddoniaeth dri diwrnod yn Abertawe wrth i adeg llofnodi'r Memorandwm o Ddealltwriaeth nesáu. 

Montana sign

Uwch-ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe yr Athro Iwan Davies a Llywydd Prifysgol Talaith Montana Dr Waded Cruzado yn llofnodi'r Memorandwm o Ddealltwriaeth (blaen). O'r chwith, Cofrestrydd Prifysgol Abertawe Andrew Rhodes, cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, Sal Lalani, Canghellor Prifysgol Abertawe y Fonesig Jean Thomas, Comisiynydd Clai Christian, o Swyddfa Comisiwn Addysg Uwch System Prifysgol Montana a Dr Miley Gonzalez, Is-Brovost a Deon Rhaglenni Rhyngwladol

Dywedodd Llywydd Prifysgol Talaith Montana, Dr Waded Cruzado:  

"Bydd partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Talaith Montana yn cryfhau'r ddau sefydliad. 

"Rydym yn gyffrous am y posibiliadau ar gyfer ymchwil, cyfnewidfeydd a chyfleoedd eraill a fydd o fudd i fyfyrwyr a staff. 

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r gyfeillgarwch newydd hwn." 

Ar hyn o bryd, mae gan Brifysgol Talaith Montana, a sefydlwyd yn Bozeman yn agos i Barc Cenedlaethol Yellowstone ym 1893, bron i 17,000 o fyfyrwyr ac mae ymhlith 3% uchaf colegau a phrifysgolion UDA o ran gwariant ar ymchwil. 

Daw'r cydweithrediad diweddaraf hwn ychydig o wythnosau'n unig wedi cyhoeddiad Prifysgol Abertawe ei bod yn sefydlu partneriaeth newydd â Phrifysgol Columbia yn Efrog Newydd, a'r gobaith yw y bydd yn arwain at gydweithrediad ymchwil ehangach a manteisio eraill megis cyfnewidion myfyrwyr. 

Meddai Cofrestrydd Prifysgol Abertawe, Andrew Rhodes: 

 “Mae meithrin partneriaethau rhyngwladol â phrifysgolion mawr eu parch wedi bod yn rhan ganolog o'n llwyddiant yn y blynyddoedd diweddaraf ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r cyfeillgarwch newydd hwn â Montana. 

“Mae potensial gwych yma a allai fod o fudd i'r ddwy brifysgol ac, yn bwysicaf oll, i'n myfyrwyr, boed o ran datblygu ymchwil neu sefydlu gwaith cydweithredol sy'n ymwneud â chynlluniau graddau a rhaglen gyfnewid.   

“Mae gan Brifysgol Talaith Montana a Phrifysgol Abertawe lawer yn gyffredin ac rydym wir yn gobeithio bod yn ased i'n gilydd wrth i ni barhau i ddatblygu ein perthynas o amgylch y byd."