Cymeradwyaeth frenhinol i waith Athro o ran hyrwyddo gwyddoniaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael ei hanrhydeddu gan y Dywysoges Frenhinol am ei hymroddiad i rannu ei hangerdd am wyddoniaeth â menywod eraill.

Mae'r Athro Yamni Nigam yn arbenigwr byd-enwog ar y defnydd therapiwtig o gynrhon, ac mae ei gwaith wedi arwain ati'n ennill Gwobr WISE o fri.

600 x 349

Mae'r dyfarniadau blynyddol yn rhoi cyfle i gydnabod sefydliadau ac unigolion ysbrydoledig sydd wedi mynd i'r afael â phrif bryderon ymgyrch WISE sy'n hyrwyddo gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) i ferched a menywod. 

Mae'r Athro Nigam yn cynnig sesiynau rhyngweithiol yn ei meysydd sef microfioleg ac entomoleg i ddisgyblion mewn ysgolion lleol, ac mae hi'n cymryd rhan mewn rhaglenni allgymorth cymunedol yn rheolaidd, megis Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe. 

Cyflwynwyd Gwobr Arloesi WISE iddo gan y Frenhines, sy'n noddwr WISE, mewn seremoni yn Llundain. 

Talodd y beirniad deyrnged i frwdfrydedd yr Athro Nigam a'i chanmol am ei gwaith i ddylanwadu ar gwricwlwm Cymru gyda phecynnau o adnoddau sydd wedi'u hanelu at annog mwy o ferched i wneud cais am bynciau STEM. 

"Mae hi'n datblygu gwrthfiotig newydd o secretiadau cynrhon ar adeg dyngedfennol, ac mae hi'n llysgennad gwych dros STEM," dywedodd y beirniaid. 

Yamni Award Dywedodd yr Athro Nigam ei bod hi wrth ei bodd ei bod wedi ennill, ac mae hi bellach yn bwriadu gweithio’n agosach fyth ag ymgyrch WISE. 

Meddai: "Roedd y noson gyfan yn hollol wych o'r dechrau i'r diwedd. Roedd pob un a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn anhygoel, ac mae’n fraint ennill. Diolch yn fawr i'm prif ymchwilwyr yn Nhîm Maggot! 

"Rwy'n angerddol am wyddoniaeth, ac yn hapus i wneud yr hyn rwy'n gallu ei wneud i ddangos y cyfleoedd sydd ar gael i fenywod." 

Roedd Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe a chyd-ficrofiolegydd, Hilary Lappin-Scott yno i weld yr Athro Nigam yn derbyn ei gwobr. 

Dywedodd: "Rwy'n hynod falch bod gwaith Yamni a'i hymroddiad ysbrydoledig tuag at hyrwyddo gyrfaoedd STEM wedi cael eu cydnabod gyda'r wobr arloesol fawreddog hon.

"Mae hi ymhlith yr academyddion nodedig rydym yn ddigon ffodus i'w cael yma yn Abertawe, ac mae hi'n enghraifft berffaith i ferched a menywod o'r hyn y gall STEM ei gynnig iddynt. 

"Mae digwyddiadau o'r fath mor bwysig oherwydd eu bod nhw'n ein helpu i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu dawn fenywaidd yn ein sefydliadau." 

Trefnir y gwobrau gan ymgyrch WISE, a nod yr ymgyrch yw galluogi a grymuso pobl mewn busnes, yn y diwydiant ac ym maes addysg drwy gynnig arbenigedd, hyfforddiant a digwyddiadau rhwydweithio.  

Gyda mwy na 900,000 o fenywod yn gweithio mewn swyddi STEM craidd, sy'n cynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu, mae targed WISE o gael miliwn o weithwyr benywaidd erbyn 2020 o fewn golwg erbyn hyn. 

Ychwanegodd yr Athro Nigam: "Mae'n neges mor bwysig ac yn un y byddwn i'n fwy na hapus i roi o'm hamser iddi."