Cwmni sy'n seiliedig ym Mhrifysgol Abertawe yn ennill Gwobr Gwnaed yng Nghymru 2018 ar gyfer ymladd yn erbyn plâu cnydau yn naturiol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cwmni biodechnoleg sy'n seiliedig ym Mhrifysgol Abertawe, Bionema, wedi ennill y Wobr ym maes Meddygol, Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd 2018 yng Ngwobrau Gwnaed yng Nghymru Wales Business Insider 2018.

Bionema Made in Wales awardsCynhaliwyd y noson wobrwyo ar 4 Hydref yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ac mae'r gwobrau'n cydnabod busnesau ar draws y diwydiannau peirianneg; gweithgynhyrchu; bwyd a diod; allforio; maes meddygol; y gwyddorau bywyd a gofal iechyd.

Cafodd cwmni Bionema ei gydnabod am ei effaith sylweddol ar leihau plaladdwyr cemegol byd-eang. Bioblaladdwyr yw'r dewis naturiol arall i gemegolion gwenwynig – planhigion, bacteria, ffwng a mwynau ar gyfer rheoli plâu pryfed sy'n ymosod ar fwydydd a chnydau eraill. Nid ydynt yn wenwynig, maent yn pydru'n gyflym a gellir eu targedu at blâu penodol er mwyn osgoi niweidio pryfed sydd o fantais.

Yn siarad gyda Jason Mohammed, cyflwynydd BBC yn y noson wobrwyo, dywedodd Dr Minshad Ali Ansari, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Bionema: "Rydym yn hynod falch bod Bionema wedi'i gydnabod yn y diwydiant Meddygol, Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd gan Wales Business Insider. Mae'r anrhydedd hon yn helpu i godi proffil ac effaith y gwaith y mae Bionema yn ei wneud, nid yn ein diwydiant yn unig ond i fusnesau eraill hefyd, ledled Cymru a thu hwnt.

Mae Bionema yn meithrin enw da yn gyflym ar gyfer cyflenwi plaladdwyr naturiol fel dewis arall i gynnyrch cemegol a allai fod yn niweidiol. Profwyd bod y dechnoleg arloesol a ddefnyddir yn cynhyrchu mwy o ffrwythau a llysiau, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiogelwch a diogeled bwyd byd-eang ar yr un pryd. Dywedodd Dr Ansari: "Mae Bionema yn datblygu ystod o fiogynhyrchion newydd i gydymffurfio â deddfwriaeth yr UE ar gyfer bwyd diogel, heb weddillion.

Yn gynharach eleni, gwnaeth Bionema sicrhau ei rownd gyntaf o fuddsoddiad ecwiti gwerth £500,000 dan arweiniad buddsoddwr preifat tramor gyda chyd-fuddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru, Arloesi Abertawe a Phrifysgol Abertawe. Gwnaeth y cwmni hefyd dderbyn cyllid grant gwerth £766,000 gan Innovate UK, a £100,000 o gyllid Datblygu Ymchwil ac Arloesi gan SMART Cymru, Llywodraeth Cymru, a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar gyfer datblygu technoleg llunio newydd sbon.

"Mae partneru â Phrifysgol Abertawe wedi ein galluogi i gael mynediad at arbenigedd a phrofiad ar y safle, defnyddio ei chyfleusterau gwych a chynnig profiad ymarferol i'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid rheoli biolegol. Mae gweithio gyda'r Brifysgol hefyd wedi rhoi'r cyfle i ni ddatblygu'r ffordd newydd hon o reoli'r nifer cynyddol o blâu pryfed ar draws yr UE a ledled y byd."

Yn siarad am lwyddiant Bionema, dywedodd yr Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rwyf wrth fy modd bod Bionema wedi cael ei gydnabod yng ngwobrau Gwnaed yng Nghymru. Mae'r dechnoleg y mae Bionema yn ei datblygu yn cynhyrchu technoleg lle mae pawb ar ei ennill - yn dangos cynhyrchiant gwell, ac yn fwy pwysig, yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiogelwch a diogeled bwyd byd-eang. Mae Bionema yn enghraifft wych o sut mae Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda chwmnïau i ddarparu datrysiadau cynaliadwy i'n byd."

Yn y llun o’r chwith: Stephen Burt, Cyfarwyddwr Cyllid; Dr Minshad A Ansari, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr; Merai Syeda; Cyfarwyddwr Gweithredol Bionema ac Jim Robertson o Wynne-Jones ED