Caledu Abertawe – Tata yn cefnogi timau Gemau Prifysgolion Cymru y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Tata Steel fydd noddwr Prifysgol Abertawe ar gyfer Gemau Prifysgolion Cymru, gan gefnogi athletwyr Abertawe mewn mwy na deugain o gampau yng nghystadleuaeth flynyddol Gemau’r Prifysgolion yn erbyn Prifysgol Caerdydd, a gynhelir o 18 tan 25 Ebrill.

200 x 60Mae Gemau Prifysgolion Cymru yn ŵyl chwaraeon wythnos o hyd. Bellach yn ei hail flwyddyn ar hugain, dyma’r digwyddiad mwyaf o’i fath i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail ddigwyddiad aml-chwaraeon fwyaf i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.

Mae cefnogaeth Tata ar gyfer Gemau’r Prifysgolion yn cryfhau ei berthynas hirsefydlog â Phrifysgol Abertawe fwy fyth, sy’n cynnwys:

  • Prosiect SPECIFIC, sy’n datblygu caenau i alluogi adeiladau i storio ynni
  • Prosiect METal, a redir gan Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, sy’n hyfforddi gweithwyr yn y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
  • Y Sefydliad Ymchwil Dur a Metelau newydd ym Mhrifysgol Abertawe
  • Gweithio gydag Academi Cyflogadwyedd y Brifysgol i gefnogi graddedigion dawnus – y nod yw creu cyfleoedd iddynt aros yn y rhanbarth, gan helpu i hybu economi Cymru

600 x 251

Llun: capteniaid Varsity Abertawe, Stadiwm Liberty

Meddai Ruth Knoyle, Arweinydd Adnoddau'r Deyrnas Unedig Tata Steel

"Rydym wrth ein bodd ein bod yn noddi Prifysgol Abertawe yng Ngemau’r Prifysgolion 2018. Mae'r cytundeb nawdd hwn yn dangos parhad ein hymgysylltiad a'n perthynas waith â Phrifysgol Abertawe, ac ar ben hynny ein hymrwymiad i recriwtio graddedigion dawnus a myfyrwyr dawnus ar gyfer lleoliadau gwaith yn Tata Steel ledled y Deyrnas Unedig." 

Bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn dros ddeugain o gampau i geisio ennill Tarian Gemau’r Prifysgolion, gan gynnwys ffrisbi eithafol, nofio, golff, cleddyfaeth, sboncen, paffio, pêl-fasged a hoci.

Cynhelir y rhan fwyaf o’r gemau ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe ar Lôn Sgeti ar 25 Ebrill, ac uchafbwynt y twrnamaint yw gêm rygbi’r dynion yn Stadiwm Liberty am 7pm y noson honno.

Bydd Abertawe’n ceisio amddiffyn Tarian Gemau’r Prifysgolion eleni, wedi’i hennill am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth y llynedd.

Welsh Varsity 2018 logo Meddai Richard Lancaster, Pennaeth Datblygu ac Ymgysylltu Prifysgol Abertawe,

“Mae Gemau Prifysgolion Cymru yn ddigwyddiad mawr ym mywyd ein myfyrwyr, y Brifysgol a Chymru. Bydd cefnogaeth Tata Steel yn helpu i sicrhau achlysur cofiadwy i bawb.

Mae’n enghraifft arall o effaith gadarnhaol y bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Tata Steel."