Buddsoddiad i o £3.2m, gyda chymorth gan UE, i ddatblygu technoleg gwbl arloesol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynllun gwerth £3.2m i helpu busnesau yng Nghymru i ddatblygu nano a microdechnolegau gwbl arloesol.

Bydd y cynllun, sy'n cael ei arwain gan Ganolfan Nanoiechyd  a Chanolfan Printing and Coating Cymru, Prifysgol Abertawe, a Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd, yn cynnig arbenigedd a'r cyfleusterau mwyaf modern i gwmnïau sy'n datblygu technolegau, cynnyrch, neu brosesau, sydd naill ai’n bodoli eisoes neu’n rhai newydd.

600 x 218

Bydd y cynllun, sydd wedi cael £1.8m gan yr UE, yn darparu cymorth technegol ac arbenigol er mwyn i gwmnïau allu arwain eu maes drwy arloesi mewn sectorau megis gofal iechyd, lled-ddargludyddion, pecynnu, a deunyddiau printiedig gweithredol. Bydd hefyd yn helpu hyd at 20 o brosiectau cydweithredu i fynd ati i ddatblygu cynnyrch newydd yn barod ar gyfer y farchnad.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd yr Athro Drakeford:

“Mae creu'r cyfle i fusnesau yng Nghymru allu manteisio ar yr wybodaeth a'r arbenigedd sydd ar gael yn ein prifysgolion gwych yn hanfodol i sbarduno arloesedd a sicrhau lle i Gymru ar lwyfan y byd.

“Mae hon yn enghraifft dda arall o sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cyllid yr UE i hybu ffyniant a swyddi.

“Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau cyllid i gymryd lle cyllid yr UE ar ôl Brexit er mwyn inni allu parhau i ddarparu cynlluniau fel hyn, sy'n dod â budd i bobl ac i'r economi.”

Dywedodd Dr Matt Elwin, sy'n arwain y gwaith ar led-ddargludyddion ym Mhrifysgol Abertawe:

“Bydd y prosiect hwn yn golygu bod diwydiant y rhanbarth yn gallu manteisio ar dri chyfleuster ymchwil hollol fodern, sy'n cynnig arbenigedd a all arwain at ddatblygu technolegau gwbl newydd a chyflymu'r gwaith o greu cynnyrch arloesol.

“Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous iawn ynghylch y cyfle hwn i weithio gyda'n cyfeillion ym myd diwydiant, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu prosiectau cydweithredu tymor hir i ddatblygu'r dechnoleg berthnasol ar gyfer cynnyrch y genhedlaeth nesaf ymhell i'r dyfodol.”

Erthygl Llywodraeth Cymru