A ydych chi’n ei chael hi'n anodd adnabod wynebau? Mae arbenigwyr yn apelio at y cyhoedd am gymorth gyda'u hymchwil

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

A ydych chi’n ei chael hi'n anodd adnabod pobl, teulu a ffrindiau hyd yn oed? A ydych chi'n ei chael hi'n anodd gwahaniaethu rhwng un olwg neu’r llall ar wyneb rhywun? Os felly, mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n awyddus i glywed gennych, gan eu bod yn ymchwilio i gyflwr sy'n effeithio ar allu pobl i weld gwahaniaethau rhwng wynebau pobl.

Enw’r cyflwr yw prosopagnosia datblygiadol (DP), a chyfeirir ato fel "dyslecsia ar gyfer wynebau". Ymhlith pobl adnabyddus sydd â'r cyflwr y mae Brad Pitt a chyd-sylfaenydd Apple, Steve Wosniak. Mae pobl yn cael eu geni â'r cyflwr, er y gallai rhai pobl golli'r gallu i adnabod wynebau o ganlyniad i drawma neu strôc.

Gall DP gael effaith niweidiol iawn ar bobl sydd â'r cyflwr ond nid yw llawer ohonynt yn ymwybodol bod ganddynt y cyflwr hyd yn oed. Dywedodd un unigolyn â'r cyflwr wrth y tîm ymchwil iddo gwrdd â'i fos yn yr archfarchnad a methu â'i adnabod. Wrth lwc, yn yr achos hwn, roedd y bos yn ymwybodol o'r cyflwr, ond gallai fod wedi achosi embaras enfawr a niweidio perthnasoedd.

Mae Ymchwil Wynebau Abertawe, sef grŵp o arbenigwyr yn y maes o'r Brifysgol, bellach yn chwilio am aelodau'r cyhoedd a allai fod yn fodlon eu helpu i ddeall mwy am y cyflwr hwn.

Mae gan y tîm ddiddordeb mawr mewn pobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn adnabod wynebau, ond hefyd y rhai hynny sy'n dda iawn o ran adnabod wynebau. 

600 x 600

Dywedodd Chithra Kannan o Brifysgol Abertawe, un o brif ymchwilwyr y gwaith hwn:

"Gall pobl ein helpu mewn amrywiaeth o ffyrdd ac ni fydd yn cymryd llawer o amser. Fel arfer y peth cyntaf rydym yn ei wneud yw cynnal rhai profion sgrinio ar-lein - fel rheol ni fydd y rhain yn cymryd mwy nag oddeutu hanner awr - a'r rheswm dros y profion hyn yw er mwyn penderfynu a yw hi wir yn ymddangos bod gan rywun broblem.   

Os yw'n ymddangos bod gan unigolion broblem, yna bydden ni fel arfer yn gofyn iddynt ddod i ymweld â ni i gymryd rhan mewn profion yma i weld a oes posibilrwydd pendant bod ganddynt DP. Bydd hyn fel arfer yn cymryd tuag awr.

Hoffem annog pobl i sôn am hyn wrth eu teuluoedd a'u ffrindiau sy'n wael iawn, neu'n dda iawn, o ran adnabod wynebau."  

Meddai Dr Jeremy Tree, athro cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe ac arbenigwr mewn DP:

"Gall DP gael effaith niweidiol iawn ar bobl sydd â'r cyflwr. Mae'n hanfodol i ni ddeall mwy amdano er mwyn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi'r rhai sy'n byw gyda fe. Dyna pam mae'n hymchwil ni'n bwysig. Felly byddem yn ddiolchgar iawn i unrhyw un sy'n gallu'n helpu ni."

Lleolir y tîm yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Cysylltwch a:  j.tree@swansea.ac.uk