Aur yn y Traeth Aur: Gemau’r Gymanwlad llwyddiannus i athletwyr Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Roedd medal aur i’r nofiwr Alys Thomas yn goron ar Gemau’r Gymanwlad llwyddiannus i’r wyth o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a gystadlodd yn Nhîm Cymru. Enillont dair o gyfanswm Cymru o 27 medal.

Roedd tri myfyriwr a phum cyn-fyfyriwr yn cynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad: 

  • Nofio: Alys Thomas, Jazz Carlin, Georgia Davies, Ellena Jones, Alex Rosser
  • Bowls lawnt: Anwen Butten
  • Clwydi: Caryl Granville
  • Hoci: Jacob Draper

Enillodd athletwyr Prifysgol Abertawe dair o 23 medal Tîm Cymru, pob un am nofio:

  • Aur: Alys Thomas, 200m dull pili pala
  • Efydd: Georgia Davies, 50m ar y cefn
  • Efydd: ras gyfnewid gymysg 4 x 100m (Alys Thomas a Georgia Davies yn y tîm)

400 x 525Graddiodd yr enillydd medal aur Alys Thomas yn 2015 gyda gradd mewn Seicoleg o Brifysgol Abertawe.

Esboniodd sut y bu modd iddi gydbwyso’i hastudiaethau a’u chynllun hyfforddi llym, a oedd yn cynnwys hyd at naw sesiwn dwy awr yn y pwll a thair sesiwn yn y gampfa bob wythnos:

“Mae lleoliad yn Brifysgol yn dda iawn.

Roeddwn yn gallu cerdded ar draws yr heol i’r pwll o’m darlithoedd.

Mae llawer o waith trefnu a chyfathrebu hefyd, sy’n golygu y gallwch gydbwyso’ch llwyth gwaith a’ch hyfforddiant.

Mae’n ei gwneud hi’n hawdd nofio ar eich gorau ac ennill gradd dda.

Byddech chi’n mynd i’r Unol Daleithiau am le fel hwn.”

Meddai Steve Joel, Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Abertawe:

“Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr presennol a’n cyn-fyfyrwyr a gynrychiolodd eu gwlad yng Ngemau’r Gymanwlad. Maent Abertawe a Chymru yn falch ohonynt.

Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gynigiwn ym Mhrifysgol Abertawe o’r safon uchaf. Hyfforddodd ein nofwyr a enillodd fedalau ym Mhwll Cenedlaethol Cymru. Hyfforddodd y Crysau Duon gyda ni cyn mynd ymlaen i ennill Cwpan Rygbi’r Byd 2015.

Rydym hefyd yn helpu athletwyr i gynnal y cydbwysedd cywir rhwng eu hastudiaethau a’u chwaraeon – nid oes angen iddynt ddewis un neu’r llall. 

Mae llwyddiant ein myfyrwyr yng Ngemau’r Gymanwlad yn dangos bod Prifysgol Abertawe yn cymryd chwaraeon o ddifrif.”