Yr Athro Stefan Doerr i gynnal digwyddiad Gwyddoniaeth Reddit “Gofynnwch Unrhyw Beth i Mi”

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr Athro Stefan Doerr o Brifysgol Abertawe'n cymryd rhan mewn sesiwn "Hawl i Holi" Gwyddoniaeth Reddit ddydd Mawrth 14 Tachwedd.

Mae sesiynau Hawl i Holi Reddit yn annog pobl i ofyn cwestiynau am unrhyw bwnc. Mae'r sesiynau ar agor i holl ddefnyddwyr Reddit ac maent yn defnyddio system sylwadau'r wefan ar gyfer cwestiynau ac atebion.

Bydd yr Athro Doerr sy’n Athro Daearyddiaeth Ffisegol yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe ac yn Brif Olygydd International Journal of Wildland Fire, yn cynnal y digwyddiad wrth ochr y newyddiadurwr Nicola Jones a Dr Mike Flannigan, sy'n athro yn Adran Adnoddau Adnewyddadwy Prifysgol Alberta.

Trefnwyd y sesiwn gan Yale Environment 360 (E360) a bydd yn canolbwyntio ar amlder a dwysedd cynyddol  tanau gwyllt byd-eang, pwnc a gafodd sylw mewn stori E360 ddiweddar, Stark Evidence:   A Warmer World Is Sparking More and Bigger Wildfires. Ysgrifennwyd y stori gan Nicola Jones, ac mae'n cynnwys gwaith gan sawl gwyddonydd gan gynnwys yr Athro Doerr.

Wildfire  - Stefan Doerr

Trwy gydol ei yrfa mae'r Athro Doerr wedi ymchwilio i effeithiau amgylcheddol tanau gwyllt, gan ganolbwyntio ar y perthnasoedd rhwng difrifoldeb tanau, amlder tanau, dynameg garbon ac ymatebion ar ôl tanau mewn tir a losgwyd yn:

  • Ewrop
  • Awstralia (gan gynnwys tanau trychinebus 'Dydd Sadwrn Du' yn 2009)
  • Gogledd America.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 6pm GMT..