Yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Abertawe ac Electrical Safety First, mae'r risg o danau a damweiniau trydanol yn uwch i bobl hŷn.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae adroddiad ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a'r elusen Electrical Safety First wedi canfod bod risg anghymesur i bobl hŷn o brofi tân trydanol yn eu cartrefi, a bod y tebygolrwydd o gael eu hanafu mewn tân trydanol o leiaf pedair gwaith yn uwch ar gyfer pobl 80 oed neu'n hŷn nag ydyw ar gyfer unrhyw grŵp oedran arall.

Lluniwyd yr adroddiad, Sut gallwn Gadw Pobl Hŷn yng Nghymru yn Ddiogel? gan yr Athro Cysylltiol Dr Sarah Hillcoat‐Nallétamby a Dr Alexandra Sardani o'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia/Y Ganolfan Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe mewn partneriaeth ag Electrical Safety First. Canfu'r adroddiad fod mwy na hanner y tanau damweiniol mewn tai yng Nghymru'n cael eu hachosi gan drydan a bod dyfeisiau diffygiol neu sy'n cael eu camddefnyddio ymysg yr achosion pennaf. Mewn cymdeithas sy'n heneiddio, rhagfynegir y bydd nifer y bobl 80 oed neu'n hŷn yn dyblu erbyn 2035, ac yn ôl amcangyfrifon, gallai 50,000 o bobl 65 oed neu'n hŷn fod yn byw gyda dementia yng Nghymru erbyn 2025 gyda'r problemau colli cof sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yn cynyddu'r risg o ddamweiniau yn y cartref.

Yn naturiol, mae pobl hŷn am barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosib. Fodd bynnag, oherwydd pryderon am gost atgyweiriadau a diffyg ymwybyddiaeth o beryglon trydanol, gall pobl fyw mewn cartrefi â pheryglon trydanol sylweddol.

Mae tuag 80% o bobl hŷn yng Nghymru'n byw yn eu cartrefi eu hunain ac adeiladau hŷn nad ydynt erioed wedi cael gwiriad diogelwch trydanol yw'r rhan fwyaf o'r rhain. Hefyd, mae pobl hŷn yn debygol o ddefnyddio dyfeisiau trydanol hŷn a dibynnu ar wresogyddion a blancedi trydan, yn enwedig yn y gaeaf, heb unrhyw gyfarpar diogelwch tân.

Meddai Dr Sarah Hillcoat-Nalletamby, Athro Cysylltiol mewn Iechyd Cyhoeddus, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r ymchwil rydym wedi'i gyfrannu at adroddiad Electrical Safety First wedi bod yn bwysig am sawl rheswm, ond i mi, mae'n dangos unwaith eto nad grŵp homogenaidd yw pobl hŷn; mae ganddynt ofynion amrywiol iawn o ran diogelwch trydanol, gan ddibynnu ar eu hoedran. Mae'n braf gweld bod ein cyfraniad ymchwil wedi mynd yn uniongyrchol at Lywodraeth Cymru."

Mae anghysondeb yn y ffordd o ddeddfu ynghylch diogelwch trydanol, gan ddibynnu ar ddeiliadaeth eiddo. Er bod Safon Ansawdd Tai Cymru yn pennu isafswm gofynion o ran tai diogel yn y sector cymdeithasol, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar bobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain i gynnal a chadw eu gosodiadau neu i wirio dyfeisiau trydanol; ac, yn y farchnad rhentu’n breifat, yr unig ofyniad yw argymhelliad i gynnal gwiriadau trydanol bob pum mlynedd.

Mae'r adroddiad newydd yn argymell:

  • Y dylai awdurdodau lleol weithio gyda darparwyr gofal i gynnal ymweliadau cartref ychwanegol i bobl 80 oed neu'n hŷn er mwyn nodi risgiau ac atal tanau a damweiniau trydanol
  • Mae'n rhaid ehangu mentrau presennol gan y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru i gynnal gwiriadau diogelwch tân am ddim mewn cartrefi, gan roi pwyslais ar beryglon trydanol
  • Rhaid cyflwyno rheoliadau i gynnal gwiriadau diogelwch trydanol bob pum mlynedd yn y sectorau rhentu preifat a chymdeithasol yng Nghymru
  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ariannu cynllun i ddarparu gwiriadau diogelwch trydanol am ddim bob pum mlynedd yng nghartrefi pobl 80 oed neu'n hŷn, waeth beth yw deiliadaeth yr eiddo. Byddai hyn yn costio uchafswm o £5 miliwn bob blwyddyn.

Elderly HandsMeddai Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Materion Cyhoeddus Electrical Safety First: "Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru, rydym wedi canfod bod y risg o danau trydanol yn y cartref yn sylweddol uwch ar gyfer pobl hŷn na grwpiau oedran eraill. Mae pobl hŷn yng Nghymru'n cynrychioli dros draean o'r anafiadau o ganlyniad i dân trydanol, ac mae pobl 80 oed neu'n hŷn o leiaf pedair gwaith yn fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o gael eu hanafu yn y tanau hyn. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru, i'w galluogi i fyw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosib".

Lansiwyd yr adroddiad yn nigwyddiad Cartrefi Diogelach Cymru yng Nghynulliad Cymru y prynhawn hwn er mwyn hyrwyddo diogelwch trydanol yng nghartrefi pobl hŷn yng Nghymru.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ddiogelwch trydanol i bobl hŷn.

Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn yma.