Tymereddau sy'n cynhesu'n fygythiad i grwbanod môr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi awgrymu y gallai crwbanod môr fod ar drengi oherwydd cynnydd yn nhymheredd y môr.

Sea turtles (credit Kostas Papafitsoros).Mae'r astudiaeth gan Dr Jacques-Olivier Laloë  o Goleg Gwyddoniaeth  y Brifysgol,  a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Global Change Biology, yn dadlau y gallai'r tymereddau cynhesach sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd arwain at niferoedd uwch o grwbanod môr benywaidd a chynnydd mewn methiant yn y nyth, a gallai hyn gael effaith negyddol ar boblogaeth crwbanod môr mewn rhai rhannau o'r byd.

Effeithiau cynnydd mewn tymereddau

Nodwyd tymereddau cynyddol fel pryder ar gyfer poblogaethau crwbanod môr am y tro cyntaf ar ddechrau'r 1980au, oherwydd bod rhyw crwban môr yn dibynnu ar y tymheredd pan fydd yr embryo yn deor. TSD (Temperature-Dependent Sex Determination) yw enw'r broses hon.

Y tymheredd hollbwysig ar gyfer geni cyfrannau cyfartal o wrywod a benywod yw 29oC - uwchlaw'r tymheredd hwn, benywod yn bennaf sy'n cael eu geni ac islaw 29oC caiff mwy o wrywod na benywod eu geni. O fewn cyd-destun newid yn yr hinsawdd a thymereddau sy'n cynhesu, a phopeth arall yn gyfartal, disgwylir i boblogaethau crwbanod môr gynnwys rhagor o fenywod na gwrywod yn y dyfodol. Er ei bod yn hysbys y gall gwrywod baru â mwy nag un fenyw yn ystod y tymor bridio, os nad oes digon o wrywod yn y boblogaeth, gallai hyn fygwth hyfywedd poblogaeth.

Archwiliodd yr astudiaeth newydd effaith bwysig arall tymereddau cynyddol: cyfraddau goroesi yn y nyth. Mae wyau crwbanod môr yn datblygu'n llwyddiannus o fewn amrediad cymharol gyfyngedig o dymereddau yn unig, sef tua 25-35oC. Felly, os bydd tymereddau deor yn rhy isel, ni fydd yr embryo'n datblygu ond, os byddant yn rhy uchel, bydd datblygiad yn methu. Felly, os bydd tymereddau deor yn cynyddu yn y dyfodol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, bydd rhagor o nythod crwbanod môr yn methu.

Cofnododd yr ymchwilwyr dymereddau tywod ar safle nythu pwysig ar gyfer crwbanod môr pendew yn Cape Verde dros chwe blynedd. Buont hefyd yn cofnodi cyfraddau goroesi dros 3,000 o nythod er mwyn astudio'r berthynas rhwng tymheredd deor a chyfraddau epil byw. Ar sail rhagamcaniadau o'r hinsawdd leol, aeth y tîm ymchwil ati i fodelu sut mae niferoedd crwbanod yn debygol o newid ar hyd y ganrif hon ar y safle nythu hwn.

Canlyniadau'r ymchwil

Meddai Dr Laloë: "Mae ein canlyniadau'n dangos rhywbeth diddorol iawn. Hyd at bwynt penodol, mae tymereddau deor uwch yn llesol i grwbanod môr, am eu bod yn cynyddu cyfradd dyfu naturiol y boblogaeth: genir rhagor o fenywod oherwydd yr effaith TSD, sy'n golygu bod rhagor o wyau'n cael eu dodwy ar y traethau.

"Fodd bynnag, uwchlaw tymheredd penodol, mae cyfradd dyfu naturiol y boblogaeth yn gostwng oherwydd cynnydd mewn marwolaethau mewn nythod sy'n gysylltiedig â thymheredd. Mae tymereddau'n rhy uchel ac nid yw'r embryonau'n sy'n datblygu'n goroesi. Mae hyn yn bygwth goroesiad tymor hir y boblogaeth hon o grwbanod môr."

Sea turtles (credit Kostas Papafitsoros).Mae'r ymchwilwyr yn disgwyl y gwelir cynnydd o tua 30% yn nifer y nythod yn Cape Verde erbyn 2100 ond, os bydd tymereddau'n parhau i gynyddu, gallai niferoedd gostwng wedi hynny.

Mae'r astudiaeth newydd yn nodi marwolaethau epil yn y nyth mewn cysylltiad â thymheredd fel bygythiad pwysig i grwbanod môr ac mae'n amlygu pryderon ar gyfer rhywogaethau y mae TSD yn effeithio arnynt mewn byd sy'n cynhesu. Mae'n awgrymu ei bod yn hanfodol monitro sut mae cyfraddau epil byw yn newid dros y degawdau nesaf er mwyn diogelu poblogaethau crwbanod môr ledled y byd.

Meddai Dr Laloë: "Yn y blynyddoedd diweddar, mewn lleoedd fel Florida - safle nythu pwysig arall ar gyfer crwbanod môr - nodir cyfraddau goroesi is nag yn y gorffennol mewn mwy a mwy o nythod crwbanod. Mae hyn yn dangos y dylem fonitro tymereddau deor a chyfraddau goroesi crwbanod môr yn y nyth yn ofalus iawn os hoffem eu diogelu'n llwyddiannus.

"Os bydd angen, gellir rhoi mesurau cadwraeth ar waith ledled y byd i ddiogelu wyau crwbanod môr sy'n deor. Gallai mesurau o'r fath gynnwys cysgodlenni artiffisial ar gyfer nythod crwbanod neu symud wyau i ddeorfa ddiogel lle caiff y tymheredd ei reoli."         

Cyhoeddwyd Climate change and temperature-linked hatchling mortality at a globally important sea turtle nesting site yr wythnos hon gan Global Change Biology. Awduron: Jacques-Olivier Laloë, Jacquie Cozens, Berta Renom, Albert Taxonera a Graeme C Hays. 

Mae lluniau cydnabyddiaeth i Kostas Papafitsoros.