Trasiedi tiroedd comin morwellt

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae angen cymryd camau gweithredu brys er mwyn atal dolydd morwellt y byd rhag cael eu colli ac i amddiffyn y pysgodfeydd sy’n gysylltiedig â hwy.

Gan ysgrifennu yng nghyfnodolyn Fish & Fisheries, mae Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe (ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Stockholm) yn archwilio i ba raddau y mae'r dolydd hyn o blanhigion tanddwr yn cefnogi gweithgarwch pysgota’n fyd-eang.   

"Lle bynnag y mae morwellt yn bodoli'n agos i bobl, mae ein hymchwil yn canfod ei fod yn cael ei ddefnyddio fel cynefin pysgota allweddol" meddai Dr Unsworth, a leolir yn Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe. 

"Am y tro cyntaf mae ein hymchwil yn dangos y defnydd byd-eang helaeth o ddolydd morwellt fel cynefin pysgota. Mewn gwledydd sy'n datblygu, mae'r gweithgarwch hwn yn tueddu bod o arwyddocâd mawr ar gyfer y cyflenwad bwyd dyddiol a bywoliaethau yn gyffredinol. Mewn gwledydd datblygedig, mae rôl y gweithgarwch hwn yn fwy cysylltiedig â physgodfeydd hamdden neu bysgodfeydd wedi'u targedu at rywogaethau penodol (e.e. cregyn bylchog)."

Seagrass FencesYchwanegodd Dr Nordlun o Brifysgol Stockholm "Mae gwerth ecolegol dolydd morwellt yn anwadadwy, ond eto rydym yn parhau i weld colled ar raddfa gynyddol.  Bellach mae tystiolaeth gynyddol yn fyd-eang nad yw llawer o bysgodfeydd sy'n gysylltiedig â morwellt wedi'u cofnodi a chan eu bod yn anhysbys ac nad oes neb yn eu rheoli, mae hyn yn arwain at drychineb y tiroedd comin morwellt".   

Yn eu herthygl, mae'r ymchwilwyr yn amlygu bod dolydd morwellt mewn amgylcheddau cysgodol yn llefydd gwych i bysgota ym mhob tywydd o ganlyniad i'w dosbarthiad dŵr bas ar hyd y glannau. O ganlyniad i hyn ceir pysgota dwys yn yr ardaloedd hyn trwy gydol y flwyddyn.

Mae'r awduron wedi astudio pysgodfeydd morwellt ledled y byd o Ynysoedd y Philipinos, i Zanzibar, Indonesia, Ynysoedd Turks a Caicos a lleoliadau ym Môr y Canoldir. Maent wedi canfod nifer o gyffelybiaethau yn y mathau o offer pysgota a ddefnyddir, y prif deuluoedd o anifeiliaid a bysgotir a hyd a lled yr ymdrech bysgota wedi’i chanolbwyntio ar y cynefinoedd sensitif hyn.  

Indigenous fisher spear fishing in IndonesiaHyd yn oed mewn dolydd morwellt bychain yng Nghymru, gellir gweld pysgotwyr yn targedu berdys pan fo'r llanw ar drai ac yn gosod rhwydi drysu i ddal draenogiaid.  Trwy ddarparu strwythur tri dimensiwn mewn môr sydd fel arall yn ddiffrwyth, mae morwelltau'n cynnig lle gwych i guddio i bysgod ac infertebrata megis crancod, berdys a chregyn bylchog. Yr hyn sy'n denu pysgotwyr yw'r digonedd hwn o fywyd anifeiliaid.

"Mae'n bwysig cydnabod gwerth y cynefinoedd hyn yn fwy o ran y modd y maent yn cefnogi pysgodfeydd sy'n cael eu niweidio ac sy’n dirywio’n fyd-eang." meddai Dr Cullen-Unsworth (Prifysgol Caerdydd), un o'r cyd-awduron sydd hefyd yn gyfarwyddwr yr elusen cadwraeth forol Project Seagrass sy'n gweithio i amlygu pwysigrwydd a chyflwr truenus y cynefinoedd morol sensitif hyn.

Mae eu papur – Global significance of seagrass fishery activity – ar gael (Mynediad Agored) yma http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/faf.12259/full