Stryd Fawr Abertawe: prosiect newydd i hel atgofion am ei hanes bywiog

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect newydd ar y cyd wedi'i lansio i archwilio a dathlu hanes cyfoethog un o strydoedd mwyaf adnabyddus Abertawe, sef y Stryd Fawr.

Wedi'i arwain gan Swansea Music Art Digital a'i gefnogi gan Raglen Cymunedau Cysylltiedig Prifysgol Abertawe a Chronfa Treftadaeth y Loteri, bydd prosiect hanes llafar Swansea Scenes yn canolbwyntio ar ddatgelu a dogfennu hanes y cymunedau sydd wedi defnyddio ardaloedd cymdeithasol y Stryd Fawr ers y 1800au - o neuaddau cerddoriaeth a'r sinema gyntaf yng Nghymru, i’r clwb cyntaf yng Nghymru ar gyfer pobl hoyw a thafarnau sy'n cynnig cerddoriaeth fyw.

Caiff atgofion a deunyddiau a gesglir gan brosiect Swansea Scenes eu manylu mewn ffilm ddogfen, archif digidol ac rhith-amgueddfa wedi'u lleoli mewn nifer o leoliadau ar draws y ddinas. Defnyddir y dechnoleg ddiweddaraf i ddarparu cynnwys digidol i ardaloedd sy'n gysylltiedig ag ardal ddaearyddol benodol. 

Bydd y prosiect yn cynnwys rhai o adeiladau mwyaf adnabyddus y Stryd Fawr:

  • Adeiladwyd Theatr y Palas (isod) sy'n adeilad rhestredig Gradd II yn 1888 a chroesawodd bobl megis Charlie Chaplin a Morecambe and Wise. Yn 1960 ymddangosodd enillydd gwobr Oscar, Syr Anthony Hopkins, ar y llwyfan am y tro cyntaf erioed yn Theatr y Palas.  Mae gan yr adeilad eiconig hanes brith wrth iddo gael ei ddefnyddio fel theatr, sinema, marwdy dros dro yn ystod y Blitz, clwb nos i bobl hoyw, neuadd bingo a chlwb dawnsio yn ystod y 1990au. Hwn oedd y lleoliad cyntaf yn Abertawe i ddangos lluniau symudol.
Palace Theatre - Swansea ‌Theatr y Palas yn 2017. 
 
  • Defnyddiwyd Gwesty'r Bush sef adeilad rhestredig Gradd II Sioraidd gan Oliver Cromwell yn yr 17eg Ganrif ar ôl rasio ceffylau yn Nhwyni Crymlyn.  Yn 1804 cynhaliodd fuddsoddwyr gyfarfod yn y Bush i drafod sefydlu trên y Mwmbwls a dywedir mai honno oedd y dafarn olaf yn Abertawe lle yr yfodd Dylan Thomas cyn iddo adael am Unol Daleithiau America. Erbyn hyn mae'r adeilad wedi'i ddymchwel.
  • Agorodd Adeilad Elysium yn 1914 fel sinema ar un lefel a chlwb ar gyfer gweithwyr y dref ar lefel arall. Roedd yn cynnwys ystafell ddawns ac ystafell ddarllen i fenywod. Caewyd y sinema yn 1960 a chaewyd yr adeilad cyfan yn 1994. Mae'n parhau i fod yn adfeiliedig hyd heddiw.
Elysium Building - Swansea‌Adeilad Elysium.

Gan weithio mewn partneriaeth â Phrosiect Cymunedau Cysylltiedig, nod Swansea Scenes fydd hyfforddi tîm craidd o 15 o wirfoddolwyr lleol mewn treftadaeth, hanes llafar, gwneud ffilmiau, a dylunio a datblygu digidol.

Meddai Kate Spiller, Prosiect Cymunedau Cysylltiedig: "Hyd yma mae hanes llafar diwylliant y Stryd Fawr heb ei gofnodi. Bydd y prosiect hwn yn newid hynny trwy gynnal ystod o ddigwyddiadau, gweithdai a chynyrchiadau amlgyfrwng sydd wedi'u hanelu at ddatgelu a chadw hanes anghofiedig y Stryd Fawr. Bydd archif yn cadw straeon, lluniau a cherddoriaeth o'i hanes diwylliannol cyfoethog.

Bydd atgofion y bobl leol a oedd â chysylltiadau â Stryd Fawr Abertawe yn ganolog i'r ymchwil.

The Venom

The Venom yn chwarae yn y Coach House yn 1980. 

Esbonia Stuart Summer, arweinydd prosiect Swansea Scenes: “Mae cymaint o'n hanes lleol wedi'i weu yn rhan o atgofion a phrofiadau pobl. Mae'r prosiect hwn yn rhoi cyfle i ni adrodd stori Stryd Fawr Abertawe a'r effaith sylweddol a gafodd ar y cymunedau yr oedd ganddynt gysylltiadau cryf â'r ardal - LGBT, pync, roc, indie, rave, dawns a llawer mwy. Rydym yn dymuno clywed am eu hatgofion a gweld unrhyw luniau neu ddeunyddiau sydd ganddynt.

"Trwy ddangos sut cafodd yr ardal ei defnyddio ar gyfer cymunedau gwahanol ac anghyfartal y gobaith yw darparu cipolwg mwy a pharhaol o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau a ddigwyddodd yn ystod bywyd y stryd. Bydd hyn yn helpu i roi dealltwriaeth well o hanes a phwysigrwydd y stryd hon sy'n newid yn gyflym i'r gymuned ehangach yn Ne Cymru a'r tu hwnt iddi".   

Mae prosiect Swansea Scenes yn rhan o'r Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig sy'n ymchwilio a dathlu hanes cymunedau ar draws Cwm Tawe ac mae wedi'i ddatblygu gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe. 

Os hoffech gyfrannu at brosiect Swansea Scenes, ebostiwch Kate Spiller: k.spiller@swansea.ac.uk neu ffoniwch 01792 606587.