Prosiect ynni gwerth miliynau o bunnoedd yn cychwyn yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect gwerth miliynau o bunnoedd, a allai drawsnewid sector ynni’r Deyrnas Unedig a mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas ar hyn o bryd, wedi cychwyn yng Nghymru.

FLEXIS1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae prosiect £24m FLEXIS, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn crynhoi arbenigedd o wahanol brifysgolion Cymru i hwyluso’r broses o bontio i ddyfodol carbon isel mewn modd fforddiadwy, cynaliadwy a chymdeithasol dderbyniol.

Prif noddwyr y gwaith yw Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru.  Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ac Arolwg Daearegol Prydain hefyd yn rhan o’r prosiect.

Bydd y prosiect pum mlynedd, sy’n cael ei gefnogi gan yr UE, yn ceisio datrys cyfres amrywiol, cymhleth a rhyng-ddibynnol o heriau, sy’n amrywio o storio ynni i ddatgarboneiddio a thlodi tanwydd.

Bydd y prosiect yn edrych yn benodol ar sut gellir integreiddio ffynonellau ynni newydd, carbon isel i’r grid ynni, a sut gall y grid ei hun ymdopi â llif eithafol o ynni i’r system mewn mannau niferus ac ar adegau ar hap.

‌Fel rhan o’r prosiect, nodwyd safle arddangos yn ardal Bae Abertawe, gyda Gwaith Dur TATA ym Mhort Talbot yn ganolbwynt, i weithredu fel safle profi ar gyfer syniadau newydd ac i arddangos y dechnoleg newydd a’r datrysiadau ynni sy’n cael eu datblygu.  Ymhlith y partneriaid mae TATA Steel, Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

FLEXIS3Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford AC: "Mae FLEXIS yn enghraifft dda o sut mae cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu buddsoddi mewn gwaith ymchwil a phrosiectau datblygu ar y cyd sy'n cynnwys prifysgolion Cymru a diwydiant.

"Mae'r prosiectau hyn yn helpu i greu busnesau a swyddi newydd yng Nghymru. Mae'r rhain ar flaen y gad ym maes arloesedd a dyna pam mae'n hanfodol ein bod yn cael arian o ffynonellau yn y DU ar ôl 2020, yn lle'r arian Ewropeaidd blaenorol, a'n bod yn gallu parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd.

"Bydd FLEXIS hefyd yn mynd i'r afael â heriau byd-eang pwysig iawn o ran effeithlonrwydd ynni. Felly, rwyf yn falch iawn y bydd Cymru'n chwarae rhan flaenllaw yn y maes hwn."

Erbyn 2020, disgwylir i Gymru sicrhau dros £20m o incwm ymchwil gystadleuol ychwanegol o ganlyniad i FLEXIS.