Myfyrwyr yn gwirfoddoli i baentio mewn canolfan i bobl anabl ifanc

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bu myfyrwyr o Darganfod - Gwirfoddoli i Fyfyrwyr Abertawe’n cynnig eu sgiliau paentio, addurno a garddio wrth helpu i fywiogi canolfan weithgareddau i bobl anabl ifanc yn Abertawe yn rhan o’u prosiect Wythnos o Waith (WoW).

Discovery student vounteersTreuliodd wyth myfyriwr o  Darganfod, elusen wirfoddoli myfyrwyr Prifysgol Abertawe, y diwrnod yng nghanolfan weithgareddau Friends of the Young Disabled (FOYD]) yn Abertawe yn paentio murlun. Wedyn, treuliodd y grŵp y diwrnod canlynol yn gwneud gwaith awyr agored a garddio yno.    

Roedd y gwaith gwirfoddoli yn rhan o ddau o brosiectau Darganfod, sef y Digwyddiad Paentio Mawr a’r Ardd Gymunedol Fawr, ac mae’r gweithgareddau hyn ymhlith rhaglen orlawn o wirfoddoli i fyfyrwyr y tymor hwn.

Meddai Liam Kelleher, myfyriwr PhD mewn Ffiseg a gydlynodd y Digwyddiad Paentio Mawr: “Yn ogystal â gweithio yn y Ganolfan, cawsom amser i gymdeithasu a  siarad â rhai o’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r ganolfan a staff y ganolfan – maent oll yn gwmni gwych ac mae ganddynt straeon ardderchog.”

Yn ystod tymor yr hydref yn unig cofnododd Darganfod 160 o wirfoddolwyr gweithgar a llwyddodd i recriwtio 140 o wirfoddolwyr newydd pellach a fu’n gweithio gyda’n cydlynwyr prosiectau myfyrwyr gan wneud dros 2,460 awr o wirfoddoli.

Mae pob un o wirfoddolwyr Darganfod yn mynychu hyfforddiant gorfodol ac yn cwblhau gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn gwirfoddoli ac mae rhai gwirfoddolwyr hefyd yn gallu mynychu hyfforddiant ychwanegol lle’n briodol. Gallant wirfoddoli mewn unrhyw un o’r prif feysydd gwirfoddoli:

  • Ysbrydoli - sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ac mae gwirfoddolwyr yn gallu cefnogi cynllun darllen gyda bydi neu bobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan awtistiaeth. Hefyd gallant weithio gyda Grŵp Ieuenctid Parc Sgeti neu gyda phlant sy’n ffoaduriaid neu sy’n ceisio lloches.
  • Rhyngweithio - sy’n canolbwyntio ar wella’r amgylchedd ac mae’r gweithgareddau’n cynnwys casglu sbwriel, gweini prydau bwyd i aelodau’r gymuned sy’n agored i niwed a gweithio ar brosiectau garddio ac addurno
  • Rhyngwladol - sy’n canolbwyntio ar Bartneriaeth Siavonga Abertawe, prosiect gwaith cymunedol a leolir yn Siavonga yn Sambia. 

Hefyd gall gwirfoddolwyr ddewis gweithio’n uniongyrchol gydag ystod o brosiectau a leolir yn Abertawe a redir gan sefydliadau eraill sydd hefyd yn cefnogi plant a phobl ifanc, oedolion ag anghenion ychwanegol neu rai sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd.

Ceir rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yma.