Gwyddonwyr o Abertawe’n cydweithio ar arbrawf cymdeithasol ar Reoli Tyrfaoedd yn Nwyrain Llundain

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilwyr gwyddoniaeth ymddygiadol o Brifysgol Abertawe’n gweithio ar y cyd ag artistiaid, curaduriaid ac arbenigwyr mewn perfformiad, sain, y gyfraith a dylunio trefol yn rhan o’r arbrawf cymdeithasol Rheoli Tyrfaoedd a drefnwyd gan Oriel Arebyte yn Nwyrain Llundain.

Crowd Control 1 - fishCynhelir y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn yn Hackney Wick a’r ardaloedd amgylchynol yn Nwyrain Llundain. Bydd y prosiect yn dechrau ar ddydd Iau, Mehefin 29 ac yn rhedeg am fis tan ddydd Sul, Gorffennaf 23.

Nod y prosiect yw archwilio’n greadigol ymddygiad grŵp a rhyngweithiadau rhwng unigolion, grwpiau a’u hamgylchoedd.

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng yr artist Heather Barnett, sydd ar hyn o bryd yn Artist Preswyl Leverhulme ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n archwilio Grwpiau Anifeiliaid; Cyfarwyddwr Oriel Arebyte a churadur Nimrod Vardi; a gwyddonwyr ymddygiadol o Brifysgol Abertawe,  Dr Andrew King a Dr Ines Fürtbauer, a leolir yn y Coleg Gwyddoniaeth.

Meddai Dr Andrew King, Athro Cyswllt ac Ecolegydd Ymddygiadol ym Mhrifysgol Abertawe: “Cwrddais i â Heather pan oeddwn i’n cynnal arbrawf yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth, Llundain. Cawsom sgwrs ac roedd gennym rai syniadau anhygoel ar gyfer prosiectau gwyddoniaeth-celf; diolch i grant Leverhulme, mae hi bellach yn Artist Preswyl yn Abertawe ac rydym yn gweithio i droi’r syniadau hyn yn realiti!”

Ychwanegodd Dr Ines Fürtbauer, Uwch-ddarlithydd ac Endocrinolegydd Ymddygiadol ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r cyfle i’n timoedd ymchwil ddatblygu arbrofion a phrofiadau gyda Rheoli Tyrfaoedd yn Oriel Arebyte  yn fendigedig. Ond yr her go iawn yw ceisio meddwl am ffyrdd o greu data defnyddiol ac ateb cwestiynau gwyddonol tra hefyd yn creu profiadau diddorol i bobl!”

Crowd Control 2 - sheepMeddai Heather Barnett, Artist Preswyl Leverhulme ym Mhrifysgol Abertawe: “Drwy gysylltu arferion gweledol, digidol a chelfyddydau perfformio ag ymchwil wyddonol gyfoes a dylunio trefol, bydd Rheoli Tyrfaoedd yn archwilio cyfathrebu, cyd-weithredu a chyd-ddeallusrwydd rhwng pobl.  

“Bydd y tîm yn creu profiadau, arbrofion ac ymyriadau sy’n archwilio sut y mae grwpiau’n symud gyda’i gilydd, yn trosglwyddo gwybodaeth, yn gwneud penderfyniadau ac yn ymateb i amodau amgylcheddol newidiol. 

"Yn ogystal â bod yn bleserus, bydd y gemau, y gweithgareddau a’r digwyddiadau cyfranogol yn casglu data a delweddau, a fydd yn eu tro’n cyfrannu at y gwaith o ddatblygu celfwaith.”

Gan ganolbwyntio ar ymgysylltiad creadigol, bydd y prosiect yn gweithio’n uniongyrchol gyda grwpiau lleol, gan archwilio systemau cyfathrebu distaw a dynameg symud, cynnal ymarferion cyfranogol torfol ac arsylwi ar iaith ystumiau ar strydoedd Hackney Wick.

‌Gan dynnu ar ysbrydoliaeth gan ddynameg grŵp ymhlith grwpiau anddynol, megis pysgod heigiog ac adar heidiol, a sgiliau arbenigol Dr Andrew King a Dr Ines Fürtbauer a gwaith eu grwpiau ymchwil sy’n astudio ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid cymdeithasol, caiff patrymau cymhleth ymddygiad dynol eu harchwilio mewn ffyrdd dychmygus a chwilfrydig.  

Daw’r prosiect i ben gyda Gwŷl Rheoli Tyrfaoedd gyhoeddus, o Orffennaf 21-23, a fydd yn cynnwys penwythnos o arddangosiadau, arbrofion a digwyddiadau digymell mewn ystod o leoliadau a safleoedd trwy gydol Hackney a Tower Hamlets.


Digwyddiadau Rheoli Tyrfaoedd:

Arbrofion Dydd SadwrnGorffennaf 8 a 15, 1-5pm.  Galwch heibio i Bencadlys Rheoli Tyrfaoedd yn Arebyte i gwrdd â’r ymchwilwyr a helpu i roi cynnig ar rai arbrofion ymddygiad grŵp wrth iddynt gael eu creu.

Gwŷl Rheoli Tyrfaoedd –Arebyte White Post Lane, Arebyte Wallis Road, ac mae’r lleoliadau eraill i’w cadarnhau.  Y noson agoriadol yw nos Wener, Gorffennaf 21, o 6-9pm. Rhaglen Ddigwyddiadau, Gorffennaf 22-23, amseroedd i’w cadarnhau.  Caiff gwybodaeth fanwl am ddigwyddiadau ei chadarnhau yn gynnar ym mis Gorffennaf. Edrychwch ar y wefan a chyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf ac i weld sut y mae’r prosiect yn datblygu.  

Am wybodaeth bellach, ewch i www.crowdcontrol.london; dilynwch y prosiect ar Twitter @crowdcontrolldn; neu ewch i  dudalen Facebook y prosiect yn https://www.facebook.com/CrowdControlLDN