Dyfodol digidol mewn Iechyd a Lles; a fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gallu goroesi heb atebion digidol?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Academi Morgan Prifysgol Abertawe, gyda chymorth Comisiwn Bevan, yn cynnal symposiwm undydd ddydd Iau 29 Mehefin er mwyn gofyn cwestiynau treiddiol am ddyfodol ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn yr oes ddigidol.


Teitl: Dyfodol Digidol mewn Iechyd a Lles; a fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gallu goroesi heb atebion digidol?

Dyddiad:
  Dydd Iau Mehefin 29, 2017

Amser: 9am tan 4pm.
Mae rhaglen gychwynnol y symposiwm ar gael yma a chaff ei diweddaru'n rheolaidd wrth i'r manylion terfynol gael eu cadarnhau.

Lleoliad: Atriwm yr Ysgol Reolaeth, Campws y Bae, Prifysgol Abertawe.


Gan adeiladu ar llwyddiant ei thrafodaeth ar Brexit ac yn sgil lansiad Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru Llywodraeth Cymru, a'r cyhoeddiad diweddar am gyllid gwerth £1.3 biliwn i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe drwy'r Fargen Ddinesig, mae'r Academi wedi trefnu'r drafodaeth er mwyn herio parodrwydd gwasanaethau a sectorau cyhoeddus allweddol ac i ddod o hyd i atebion i'r heriau difrifol sy'n eu hwynebu. 

Bydd gan y symposiwm bwyslais penodol ar ddoniau, seiber-ddiogelwch a thechnoleg, a chaiff ei gynnal yn Ysgol Reolaeth y Brifysgol ar Gampws y Bae. Cadeirydd trafodaethau panel y dydd fydd Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru.

Bydd Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, yn rhoi'r prif anerchiad ar strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru a chynnydd yn y maes hwn.

Mae'r symposiwm hefyd wedi denu ffigurau blaenllaw o ddiwydiant a fydd yn rhoi cyflwyniadau yn y digwyddiad: John Gordon, Pennaeth Digidol Rhanbarthol, Pfizer Innovative Health, Ewrop, Japan, Corea, Awstralia, Seland Newydd; John Kingsbury, Pennaeth yr Economi Ddigidol a Diwydiannau Creadigol yn Knowledge Transfer Network (KTN) a chyn Bennaeth Digidol, NESTA; Duncan Tait, Swyddog Gweithredol Corfforaethol, Uwch Is-lywydd Gweithredol, Pennaeth Cyfandiroedd America ac Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica gyda Fujitsu; a Karen Tyler, Cyfarwyddwr gyda Deloitte UK Centre for Health Solutions.

Bydd cyfranogwyr yn nhrafodaethau panel y dydd hefyd yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o gwmnïau, sefydliadau a phartneriaethau megis Fujitsu, Cisco, Pfizer, Reinshaw, KTN, Proton Partners International, Cellnovo, DooPoll, GIG Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH).

I ymuno yn y drafodaeth ac i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y symposiwm hwn sydd yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/digital-futures-in-health-wellbeing-can-public-services-survive-without-them-tickets-33888926692.


Mae Academi Morgan, a enwyd ar ôl y diweddar Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru a Changhellor Prifysgol Abertawe, yn ganolfan bolisi sy’n defnyddio ymchwil i ymdrin â ‘materion mawr’ cyfredol polisi cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt. Wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, bydd yn gweithio ar draws disgyblaethau academaidd. Yn ogystal â sbarduno meddwl beirniadol, bydd yn cydweithio i hyrwyddo polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth.