Discovery yn croesawu cyfarwyddwr newydd a thymor newydd o wirfoddoli i fyfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Discovery, elusen wirfoddoli Prifysgol Abertawe i Fyfyrwyr, yn croesawu tymor newydd o weithgareddau gyda chyfarwyddwr newydd wrth y llyw. Dywed Eleanor Norton, a ddechreuodd ei swydd yn ddiweddar, ei bod yn edrych ymlaen at raglen lawn o wirfoddoli i fyfyrwyr y tymor hwn.

Meddai Eleanor, sydd â chefndir yn y sector nid er elw: “Ymunais i â Discovery y tymor diwethaf pan oedd yr elusen yn dathlu ei hanner canmlwyddiant ac roeddwn yn falch o weld lefelau uchel o ymgysylltiad ymhlith ein myfyrwyr. Yn ystod tymor yr hydref yn unig cawsom 160 o wirfoddolwyr gweithgar a llwyddom i recriwtio 140 o wirfoddolwyr newydd pellach a fu’n gweithio gyda’n cydlynwyr prosiect gan wneud dros 2,460 awr o wirfoddoli.”

Mae pob un o wirfoddolwyr Discovery yn mynychu hyfforddiant gorfodol ac yn cwblhau gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn gwirfoddoli ac mae rhai gwirfoddolwyr hefyd yn gallu mynychu hyfforddiant ychwanegol lle’n briodol. Gallant wirfoddoli mewn unrhyw un o’r prif feysydd gwirfoddoli:

  • Cynnwys - sy’n cynnig cymorth i oedolion sy’n agored i niwed, gan gynnwys cefnogi pobl a chanddynt anghenion ychwanegol i ymwneud â gweithgareddau neu wirfoddoli eu hunain. Mae hyn hefyd yn cynnwys cefnogi aelodau hŷn o’r gymuned, yn benodol y rhai a allai fod yn ynysedig.
  • Ysbrydoli - sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ac mae gwirfoddolwyr yn gallu cefnogi cynllun darllen gyda bydi neu bobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan awtistiaeth. Hefyd gallant weithio gyda Grŵp Ieuenctid Parc Sgeti neu gyda phlant sy’n ffoaduriaid neu sy’n ceisio lloches.
  • Rhyngweithio - sy’n canolbwyntio ar wella’r amgylchedd ac mae’r gweithgareddau’n cynnwys casglu sbwriel, gweini prydau bwyd i aelodau’r gymuned sy’n agored i niwed a gweithio ar brosiectau garddio ac addurno
  • Rhyngwladol - sy’n canolbwyntio ar Bartneriaeth Siavonga Abertawe, prosiect gwaith cymunedol a leolir yn Siavonga yn Sambia.  

Discovery infographic Welsh Hefyd gall gwirfoddolwyr ddewis gweithio’n uniongyrchol ag ystod o brosiectau a leolir yn Abertawe a redir gan sefydliadau eraill sydd hefyd yn cefnogi plant a phobl ifanc, oedolion ag anghenion ychwanegol neu rai sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd.

Mae staff hefyd yn ymwneud â’r elusen. Yn ddiweddar cyflwynodd y Brifysgol Bolisi Gwirfoddoli i Staff yn rhan o’i hymrwymiad i’r gymuned a lles, lle gall staff wirfoddoli gyda Discovery am hyd at ddau ddiwrnod y flwyddyn.

Meddai Eleanor: “Er bod y gymuned yn elwa o’u gwirfoddoli, mae’r myfyrwyr eu hunain hefyd yn elwa gan eu bod yn cael profiadau a chyfleoedd newydd sy’n gallu helpu gyda’u datblygiad personol. Wrth i ni edrych ymlaen at y tymor newydd, mae gennym nifer o ddigwyddiadau a gynlluniwyd y gall ein myfyrwyr ymwneud â nhw.”

Yn ystod tymor y Gwanwyn, mae Discovery wedi addo cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer y gymuned, gan gynnwys Cefnogi Grwpiau Cymdeithasol Cymunedol. Ym mis Chwefror bydd Discovery yn cynnal Cinio Cymunedol Sant Folant ar Gampws y Bae gan gynnwys teithiau o’r campws i breswylwyr lleol.

Bydd Discovery yn cydweithio ag ysgolion cynradd ar draws Abertawe, trwy gyflwyno Cynllun Darllen gyda Bydi a darparu diwrnodau allan i blant sy’n agored i niwed. Bob dydd Gwener, bydd Discovery yn cynnal cwisiau i’r henoed mewn tai gwarchod lleol o 1.30pm tan 4.40 pm. Hefyd bydd cyfle i bobl hŷn ymuno â sesiynau blas tango a gall pobl ifanc yn St Thomas ymuno â grŵp ieuenctid.

Ceir diweddariadau ar weithgareddau ar Dudalen Facebook Discovery

Meddai Eleanor: “Mae myfyrwyr Discovery yn gweithio’n galed iawn yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac maent yn fodelau rôl cadarnhaol iawn. Maent yn cynrychioli ochr wahanol iawn i fywyd myfyrwyr yn hytrach na’r ystrydebau sydd fel arfer yn dod i’r meddwl o ran myfyrwyr ‘nodweddiadol’ ac rwyf yn falch iawn o’r esiampl y maent yn ei gosod i bobl ifanc eraill yn ogystal â’r gymuned ar y cyfan.”

Ceir rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yma