David Hockney – Arddangosfa o’i Brintiau Gwreiddiol yn Oriel Ceri Richards

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae David Hockney yn cael ei ystyried fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol Prydain yn ystod yr 20fed ganrif. Mae’n baentiwr, dylunydd, gwneuthurwr printiau, ffotograffydd a chynllunydd llwyfan a nodweddir ei waith gan economeg techneg, sylw mawr i olau, a realaeth onest a di-nod sy’n deillio o ffotograffiaeth a chelf Pop.

David Hockney Mae’r arddangosfa hon o brintiau gwreiddiol yn dod â thair agwedd ar ei waith at ei gilydd – ei gasgliad o ysgythriadau’n seiliedig ar straeon tylwyth teg Grimm, casgliad Cavafy a rhai posteri gwreiddiol.      

Mae’r printiau hyn i gyd yn cynnwys nodweddion penodol celf David Hockney – diddordeb mawr mewn dweud straeon a’r rhyngweithio ar emosiynau pobl, y rhyfeddod o fynegi’r goruwchnaturiol a’r seicolegol mewn termau gweledol, a’r pleser o astudio ystodau newydd o dechnegau ar gyfer cyflwyno ei ddehongliadau. 

Gwener 24 Chwefror – Sadwrn 1 Ebrill