Cyrsiau cysylltiadau cyhoeddus Prifysgol Abertawe yn cael eu hachredu gan Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cyrsiau israddedig Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe wedi ennill cydnabyddiaeth gan gorff proffesiynol y diwydiant.

320 x 240Mae cyrsiau BA Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus Abertawe, sy'n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, wedi cael eu hachredu gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR), sy'n cynrychioli arbenigwyr cysylltiadau cyhoeddus ledled y Deyrnas Gyfunol.

Cyn bod cwrs prifysgol yn cael ei gydnabod gan y CIPR, maent yn edrych ar gynnwys y cwrs er mwyn  sicrhau ei fod yn ymdrin â sgiliau a gwybodaeth hanfodol cysylltiadau cyhoeddus, ac yn gwirio bod gan y rheini sy'n addysgu’r cwrs gefndir addas mewn cysylltiadau cyhoeddus. Mae'r CIPR hefyd yn edrych am dystiolaeth bod tiwtoriaid y cwrs yn gweithio gyda rhwydweithiau cysylltiadau cyhoeddus a chyflogwyr yn eu rhanbarth, ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gwrdd â gweithwyr proffesiynol a gweithio ar brosiectau go iawn wrth iddynt astudio.

Mae Adran Cyfryngau a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe’n cynnig cyrsiau israddedig mewn Cyfryngau a Chyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus, yn ogystal â chyrsiau Meistr mewn Cysylltiadau Cyhoeddus, Cyfryngau Digidol, a Newyddiaduraeth Rhyngwladol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r adran wedi derbyn sgôr o 100% am foddhad myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS).

BA Media and Public Relations  student - Myfyriwr BA Cyfryngau a Chysylltiadau C

Meddai Dr Sian Rees, pennaeth yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu: "Rydym yn hynod falch o ennill achrediad ar gyfer y cyrsiau hyn. Mae hyn yn golygu bod gan y CIPR hyder yn ein cyrsiau fel llwybr proffesiynol gwerthfawr iawn i yrfa lwyddiannus mewn cysylltiadau cyhoeddus. Fel adran, rydym yn sicrhau bod ein holl gyrsiau’n gweithio’n agos â diwydiant, gan anelu at gynhyrchu rheolwyr cynhyrchu cyfathrebu a chyfryngau’r dyfodol”.

Ychwanegodd Iwan Williams, darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cysylltiadau Cyhoeddus: "Fel yr unig brifysgol yng Nghymru sy'n cynnig BA Cysylltiadau Cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg, rydym bob amser wedi sicrhau bod rhagolygon cyflogadwyedd myfyrwyr yn rhan annatod o'u hastudiaethau academaidd. Mae hyn mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan y diwydiant cyfathrebu yng Nghymru - mae galw cynyddol am weithwyr cyfathrebu proffesiynol sy'n gallu gweithio’n effeithiol yn y ddwy iaith”.