Cyfraddau bwydo ar y fron y DU yw'r rhai isaf yn y byd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi dweud mai lefelau bwydo ar y fron y DU yw'r rhai isaf yn y byd. Mae'n rhoi llawer o'r bai ar y pwysau a'r agweddau cymdeithasol y mae llawer o fenywod yn eu hwynebu ac mae'n galw am ragor o gefnogaeth i helpu mamau newydd i ddechrau bwydo ar y fron ac i barhau i'w wneud.

Mae Dr Amy Brown o'r Adran Iechyd Cyhoeddus, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol, yn trafod hyn yn ei llyfr newydd, Breastfeeding Uncovered. Mae'n dweud bod bwydo ar y fron yn cynnig llwyth o fanteision, gan gynnwys diogelu iechyd mamau a babanod. Felly, byddai cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron yn arbed miliynau o bunnoedd bob blwyddyn yn y DU.

Roedd Dr Brown yn trafod yr ymchwil hwn yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain ym Mhrifysgol Abertawe heddiw (dydd Gwener 9 Medi).

Newborn babyMeddai Dr Brown: "Mae'n rhad ac am ddim. Mae'n cael ei annog. Mae'n gyfleus. Serch hynny, er gwaethaf y ffaith bod dros 90% o famau'r DU am fwydo ar y fron, mae dros hanner y babanod wedi cael peth fformiwla erbyn diwedd yr wythnos gyntaf ac, yn gyffredinol, cyfraddau bwydo ar y fron y DU yw'r rhai isaf yn y byd. Yn bwysig, mae dros 80% o'r mamau sy'n rhoi'r gorau i fwydo ar y fron yn ystod y chwe wythnos gyntaf yn anhapus ynghylch hyn, gyda rhai ohonynt hyd yn oed yn datblygu iselder ysbryd ar ôl geni o ganlyniad."

Yn ei llyfr, mae Dr Brown yn ymchwilio i'r rhesymau pam y mae bwydo ar y fron mor anodd oherwydd, mewn termau biolegol, dylai'r rhan fwyaf o fenywod allu bwydo ar y fron. Yn ei phrofiad hi, mae llawer o fenywod yn wynebu heriau sy'n gwneud i fwydo ar y fron ymddangos yn amhosib. Y dylanwadau pennaf ar hyn yw agweddau cymdeithas tuag at fwydo ar y fron a'r amgylchedd mae hyn yn ei greu.

Meddai Dr Brown: "Dylai bwydo ar y fron fod yn ymddygiad normal. Yn hytrach na hynny, mae'n ysgogi lefelau uchel o drafodaeth yn y wasg ac ar-lein a gall llawer o hyn ymddangos yn feirniadol iawn o fwydo ar y fron a menywod sy'n gwneud hyn. Er enghraifft, mae'r cwestiwn 'a ddylai mam fwydo ar y fron mewn man cyhoeddus' yn cynhyrchu dros 18 miliwn o ganlyniadau yn Google, cynhyrchir 14 miliwn ar gyfer 'ydy bwydo ar y fron yn anodd' a thros 7 miliwn ar gyfer 'mae bwydo ar y fron yn beth drwg'.

"I roi hyn yn ei gyd-destun, mae cwestiynau am fwydo ar y fron yn cynhyrchu dwywaith y canlyniadau a gynhyrchir gan chwiliadau am argyfwng ffoaduriaid Syria ac mae rhagor o chwiliadau Google am eitemau newyddion ynghylch bwydo ar y fron nag ar gyfer y ddaeargryn ddiweddar yn yr Eidal. Yn y cyfamser, cafodd hunlun ar-lein o fam enwog yn bwydo ei baban ar y fron 363,000 o ganlyniadau hyd at yr wythnos diwethaf a thybiwyd bod 6000 o'r rhain yn 'newyddion'".

Mae Dr Brown wedi astudio sut mae'r ffactorau allanol hyn yn effeithio ar fwydo ar y fron. Mae wedi dysgu y gall menywod deimlo'n annifyr wrth fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus, neu ddechrau amau eu bod yn gwneud rhywbeth o'i le. Gall y trafodaethau cyhoeddus hyn ddylanwadu ar aelodau'r teulu a ffrindiau hefyd sy'n herio ei dewis i fwydo ar y fron. Pan fo angen cefnogaeth ar famau newydd, yn hytrach na hynny maent yn cael eu beirniadu neu'n clywed eraill yn siarad am yr anawsterau.

Meddai Dr Brown: "Yn ogystal, mae bob amser arbenigwyr honedig wrth law sy'n fodlon hyrwyddo eu cynhyrchion a'u llyfrau sy'n gallu bod yn niweidiol i fwydo ar y fron. Ac mae hyn cyn i'r cwmnïau fformiwla ddefnyddio tactegau clyfar i ochrgamu'r rheoliadau hysbysebu. Ar ben hyn i gyd, mae mamau newydd yn wynebu pwysau cymdeithasol sylweddol i 'gael eu bywydau yn ôl' yn gyflym ar ôl cael baban, gwisgo jîns eto a chadw eu partneriaid yn hapus. Yn wyneb hyn i gyd, gall bwydo ar y fron ymddangos yn llethol."

"Nid yw'r DU yn ystyriol o fwydo ar y fron. Efallai ein bod yn hyrwyddo llaeth y fron fel y maeth gorau, ond does dim camau gweithredu i ategu hyn a chefnogi mamau newydd i fwydo ar y fron. Mar rhagor o bobl yma'n credu bod rhoi smacen i blentyn mewn man cyhoeddus yn dderbyniol na sy'n credu bod bwydo ar y fron yn iawn. Tan i ni newid agweddau fel hyn, rhoi gwell gofal i'n mamau newydd ac yn wirioneddol eu cefnogi i fwydo ar y fron, fydd y cyfraddau ddim yn cynyddu."