Canllaw Prifysgolion y Guardian yn gosod ystod eang o bynciau Prifysgol Abertawe yn 20 uchaf y Deyrnas Gyfunol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dengys canlyniadau Canllaw Prifysgolion y Guardian 2018 ystod eang o bynciau Abertawe ymhlith 20 uchaf y DG, o feddygaeth a mathemateg, i waith cymdeithasol a pheirianneg. Yn ogystal, mae chwech o bynciau Abertawe ymhlith y 10 uchaf.

Gosodwyd Abertawe yn safle 45ain yn y DG, tri safle yn unig y tu ôl i Brifysgol Caerdydd.

‘Uwch na’r cyfartaledd’

Mae’r canllaw, sy’n cael ei gynhyrchu gan y cwmni annibynnol Intelligent Metrix, yn gosod prifysgolion mewn trefn yn ôl: gwariant fesul myfyriwr; y gymhareb myfyriwr/staff; rhagolygon gyrfa i raddedigion; gofynion mynediad; sgôr ychwanegol sy’n cymharu cymwysterau mynediad myfyrwyr gyda’u canlyniadau gradd terfynol; a pha mor fodlon yw myfyrwyr y flwyddyn olaf gyda’u cyrsiau.

Guardian University Guide 2018

Mae’r tabl cyffredinol yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â threfn yn ôl pynciau, gan ddangos sut mae prifysgolion yn perfformio ar draws 54 maes astudio.

Pynciau Abertawe sydd yn 20 uchaf y DG (* yn y 10 uchaf)

Astudiaethau Americanaidd*

Cyfrifiadureg*

Gwaith Cymdeithasol

Gwyddor Chwaraeon

Mathemateg

Meddygaeth*

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Peirianneg*

Peirianneg - Deunyddiau*

Polisi Cymdeithasol*

Troseddeg

Dengys y Canllaw bod rhagolygon i raddedigion Abertawe yn uwch na’r cyfartaledd, a bod Abertawe yn y 20 uchaf am foddhad myfyrwyr gyda’u cyrsiau.

‘Llwyddiant parhaus’

Mae canlyniadau Canllaw Prifysgolion y Guardian yn dilyn cyfres o lwyddiannau diweddar i’r Brifysgol, gan gynnwys: cyrraedd y 44ain safle yn nhablau’r Complete University Guide; cyrraedd y rhestr fer mewn chwe chategori yng ngwobrau Whatuni?, gan gynnwys categori Prifysgol y Flwyddyn am y bumed flwyddyn yn olynol; cael ein rhestru ar y brig yng Nghymru yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times a’r Sunday Times 2017 - yn ogystal â chipio teitl Prifysgol y Flwyddyn Cymru.

Ym mis Mawrth, dangosodd canlyniadau’r QS World University Rankings by Subject 2017 fod disgyblaethau Peirianneg y Brifysgol yn parhau i berfformio'n dda; cadwodd Peirianneg Sifil, Strwythurol, Mecanyddol, Awyrennol a Gweithgynhyrchu eu lle ymhlith y 200 uchaf y byd, gyda Pheirianneg Gemegol yn ymuno â’r 300 uchaf. Cafodd Mathemateg, y Gyfraith, Meddygaeth a Ffiseg ei rhestri yn y tablau cynghrair byd-eang dylanwadol hefyd.

Swansea University students on the Singleton Campus

Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, uwch-ddirprwy is-ganghellor: “Rwy'n falch o weld bod y Canllaw yn rhestru ystod eang o’n pynciau ymhlith rhai o brifysgolion mwyaf blaenllaw, ac mae'n wych i weld mai ond tri safle sydd yn gwahanu prifysgolion Abertawe a Chaerdydd. Mae hyn yn arwydd clir bod dwy brifysgol o’r radd flaenaf yng Nghymru, y ddwy’n cyrraedd safleoedd tebyg yn nhermau ansawdd a rhagoriaeth.

“Mae ein llwyddiant parhaus yn y tabl hwn, a thablau cynghrair rhyngwladol, yn dystiolaeth o safon ac enw da’r brifysgol am ddarparu addysg, ymchwil, boddhad myfyrwyr a rhagolygon gyrfa o’r radd flaenaf”.