Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Eleni, mi fydd Academi Hywel Teifi yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau llenyddol ym Mhabell Lenyddiaeth Tafwyl ar 1 a 2 Gorffennaf 2017 yng Nghaeau Llandaf.
Mae Tafwyl yn ddigwyddiad naw diwrnod i gyd, gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal o amgylch y brifddinas mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, caffis, bariau a chanolfannau celf am saith diwrnod fel rhan o Wythnos Tafwyl, gan orffen gyda’r prif ddigwyddiad, Ffair Tafwyl, dros y penwythnos olaf. Mae’r Ffair yn gymysgedd fywiog o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, drama, comedi, celf, chwaraeon, bwyd a diod, a llawer mwy.
Dros y penwythnos mi fydd Academi Hywel Teifi yn cyflwyno:
Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf
Awen Abertawe - 12pm
- Cyfle i glywed y Prifardd Tudur Hallam, y Prifardd Aneirin Karadog a beirdd ifanc Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe yn cyflwyno eu cerddi ac yn trafod sut mae dysgu’r grefft.
Dychmygu’r Wladfa - 3pm
- Dr Geraldine Lublin o Adran Ieithoedd a Chyfieithu Prifysgol Abertawe yn trafod ei chyfrol newydd am hunangofiannau a hunaniaeth Patagonia gyda Dr Hannah Sams o Adran y Gymraeg.
Dydd Sul 2 Gorffennaf
Ar Ddisberod - 12pm
- Grug Muse, myfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe,yn trafod ei chyfrol newydd o gerddi, Ar Ddisberod, gyda’r Athro Brifardd Christine James.
Cyfan-dir Cymru - 3pm
- Yr Athro M.Wynn Thomas o Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru Prifysgol Abertawe yn trafod ei gyfrol newydd o ysgrifau ar ddiwylliant a llenyddiaeth Saesneg Cymru gyda’r Athro Daniel Williams.
Mae Tafwyl yn dangos ein diwylliant ar ei orau, felly peidiwch â cholli allan - dewch i fwynhau gŵyl unigryw Tafwyl!
- Dydd Iau 22 Mehefin 2017 13.39 BST
- Dydd Iau 22 Mehefin 2017 12.51 BST
- Catrin Newman