Ymchwilydd PhD ar genhadaeth i achub diogod amddifad yn Costa Rica

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Becky Cliffe, ymchwilydd PhD o’r Coleg Gwyddoniaeth, wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn cynnal gwaith ymchwil i ddiogod yn y Warchodfa Diogod fyd-enwog yn Costa Rica. Yn ystod ei chyfnod yno, casglodd Becky ddata ar nifer o anifeiliaid sâl ac amddifad sy’n dioddef o anffurfiadau i’w haelodau ac albinedd.

Mae’r rhain yn broblemau genetig sydd, yn ei thyb hi, wedi’u hachosi gan blaladdwyr sy’n cael eu chwistrellu ar gnydau ffrwythau, a cholli eu cynefinoedd sydd wedi arwain at fewnfridio.

Becky Cliffe with slothMeddai Becky: “Mae llawer o bobl yn dwlu ar ddiogod ac yn eu cael yn greaduriaid pert ac anwesol iawn ond does dim syniad ganddynt am y problemau maen nhw’n eu hwynebu. Fel defnyddwyr, mae pobl am helpu ond nid ydynt yn sylweddoli’r effaith mae prynu cynnyrch sydd wedi’u chwistrellu â phlaladdwyr yn ei chael. Dim ond wrth ymweld â’r coedwigoedd glaw rydych chi’n gweld y gwir effaith mae’n ei chael.”

Erbyn hyn, mae Becky yn hidlo’r data fel rhan o ymchwiliad hir dymor i geneteg a chynefinoedd diogod er mwyn ceisio diogelu cenedlaethau’r dyfodol.

Heb dderbyn unrhyw gymorth ariannol ar gyfer y prosiect, trodd Becky at y wefan cyllido torfol, Indiegogo, i godi’r arian yr oedd ei angen ar gyfer cyfarpar labordy sylfaenol er mwyn prosesu’r data.

Aeth yn bell y tu hwnt i’r targed o $15,000 a nawr mae modd iddi roi’r cyllid i Dr Sofia Consuegra del Olmo, Athro Cysylltiol yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe, i gynnal y profion.

Meddai Becky: “Rwy’n ffodus iawn i fod yn gweithio gyda Sofia - mae hi’n enwog ym maes geneteg cadwraeth.”

Ers 2010, mae Becky wedi cwblhau’r prosiect ymchwil manwl cyntaf i fioleg diogod caeth ac mae’n arwain ymchwiliad hir dymor i ecoleg diogod gwyllt trwy’r Prosiect Sloth Backpack.

Cyfaddefodd Becky fod angen iddi nawr fynd i’r afael â’r data y mae wedi’i gasglu yn ystod y pum mlynedd diwethaf er mwyn cwblhau ei PhD cyn dychwelyd i Costa Rica a’i hannwyl ddiogod.

Meddai: “Roedd gadael y jyngl mor anodd – rwy’n bwriadu dychwelyd yno. Fy mreuddwyd yw agor fy sefydliad cadwraeth diogod fy hun.”

 Cliciwch yma am wybodaeth bellach am waith y Warchodfa Diogod