Troi ymlaen yr ystafell ddosbarth ynni positif gyntaf yn y DU yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Adeiladwyd yr Ystafell Ddosbarth Weithredol gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC gan gynhyrchu, storio a rhyddhau ei ynni solar ei hun. Mae'n adeilad i'w ddysgu ganddo nid yn unig i ddysgu ynddo.

Caiff trydan ei gynhyrchu gan do dur sydd â chelloedd solar integredig a ddarparwyd gan gwmni deillio SPECIFIC sef BIPVco. Mae'r to wedi'i gysylltu i ddau fatri dŵr hallt Aquion Energy sy'n cael eu defnyddio yn y DU am y tro cyntaf a gallant storio digon o ynni i roi pŵer i'r adeilad am ddau ddiwrnod.

Mae'r adeilad hefyd yn defnyddio cladin dur trydyllog Tata Steel i gynhyrchu ynni gwres solar y mae modd ei storio mewn system sy'n seiliedig ar ddŵr ac mae caen sydd wedi'i wresogi'n drydanol ar y llawr a ddatblygwyd gan ymchwilwyr SPECIFIC.

Active classroom - plant room

Llun: yr ystafell beiriannau gyda'i ddau fatri dŵr hallt sy'n cael eu defnyddio yn y DU am y tro cyntaf.

Meddai'r pensaer, Jo Morgan: "Mae peth o'r dechnoleg yn newydd ond mae'r mwyafrif ohoni eisoes ar gael ar y farchnad ac mae'n fforddiadwy. Tra bod pob cynnyrch yn ei hun yn bwysig, yr arloesed go iawn yw'r ffordd eu bod yn cydweithio i gynhyrchu, i storio ac i ryddhau ynni.

Mae system reoleiddio glyfar yr Ystafell Ddosbarth Weithredol yn cyfuno data perfformiad technegol gan bob elfen gydag amrywiadau o ran deiliadaeth a thywydd y tymhorau i reoli defnydd ynni'r adeilad a rhoi amgylchedd cyffyrddus i fyfyrwyr.

Parhaodd Jo: "Nid dangos bod hyn yn gweithio yn dechnegol oedd unig nod y prosiect hwn i ni: roedd hefyd yn fater o weithio'n agos gyda'n partneriaid yn y diwydiant adeiladu ar brosiect go iawn, datblygu sgiliau a helpu i ddod ag adeiladau carbon isel fel hyn yn nes at y farchnad."

Gwyliwch y pensaer Jo Morgan yn disgrifio'r prosiect gyda fideo treigl amser o'r gwaith adeiladu.

Mae Solar Plants yn un o nifer o bartneriaid yn y prosiect. Mae'r cwmni sydd wedi'i leoli yn Mhort Talbot yn cynorthwyo'r tîm SPECIFIC gyda dylunio a gosod y cysylltedd solar-i-storio. 

Meddai Ian Hewson, Peiriannydd Oddi-ar-y-Grid, Solar Plants: "Rydym yn falch o fod yn rhan o'r prosiect hwn sy'n newid y gêm. Mae'r ystafell ddosbarth hon yn herio cynlluniau arferol ar gyfer eiddo masnachol ac, os yn llwyddiannus, bydd yn helpu i lunio'r ffordd caiff adeiladau eu dylunio wrth symud ymlaen.

Mae gweithio gyda'r cewri ym maes peirianneg Tata Steel ac arloeswyr SPECIFIC wedi bod yn brofiad anhygoel ac mae wedi helpu Solar Plants i ddatblygu gwybodaeth sy'n arwain y farchnad am y dechnoleg newydd hon."

Mae'r Ystafell Ddosbarth Weithredol yn darparu lle dysgu a labordy i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ogystal â chyfleuster datblygu ar raddfa adeilad i SPECIFIC a'i bartneriaid yn y diwydiant.

Arweinir SPECIFIC gan Brifysgol Abertawe gan weithio gyda thros 50 o bartneriaid o'r byd academaidd, y maes diwydiant a'r llywodraeth i wireddu ei weledigaeth am adeiladau fel gorsafoedd pŵer. Mae ei Bartneriaid Strategol yn cynnwys Tata Steel, BASF, NSG Pilkington Glass a Phrifysgol Caerdydd ac mae wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Classroom - completedYr ystafell ddosbarth yn ei gwedd orffenedig, wedi'i chladio mewn cynnyrch gan Tata Steel sy'n tynnu aer i mewn i wresogi'r adeilad.

Cliciwch yma i weld rhagor o luniau o'r ystafell ddosbarth.