Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae Prifysgol Abertawe wedi buddsoddi £1.3 miliwn mewn adeiladu llong arolygu pwrpasol dosbarth catamarán 18m o hyd i'w defnyddio gan fiolegwyr y môr i deithio o aberoedd i ysgafell y môr i astudio bywyd gwyllt a chynefinoedd amrywiol morlin aruthrol Cymru.
Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn arweinwyr ym maes Bioleg y Môr ers amser maith, gan gynnal ymchwil effaith uchel a chynorthwyo â chadwraeth a datblygiad cynaliadwy adnoddau morol ac arfordirol yng Nghymru.
Caiff y llong ei defnyddio i:
- arolygu'r morlin;
- mapio cynefinoedd pwysig;
- astudio ansawdd y dŵr;
- arsylwi bywyd gwyllt morol;
- gosod cyfarpar morol;
- cefnogi addysgu, ymchwil a chymorth busnes.
Bwriedir lansio'r llong newydd ym mis Rhagfyr 2017. Gall ddal 26 o bobl, ei chyflymder uchaf yw 23 not ac mae'n criwsio oddeutu 16 not, a bydd yn cynnwys cyfarpar arolygu ac ymchwil o'r radd flaenaf.
- Dydd Iau 13 Hydref 2016 11.52 BST
- Dydd Iau 13 Hydref 2016 10.53 BST
- Swansea University