Is-Ganghellor Abertawe i gadeirio pwyllgor cynghori’r British Council Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies wedi cael ei benodi’n gadeirydd newydd pwyllgor cynghori British Council Cymru.

VCMae’r Athro Davies wedi bod yn aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru ers 2012. Mae aelodau’r pwyllgor yn cynnwys uwch aelodau o’r sectorau addysg a chelfyddydau yng Nghymru. Mae’r grŵp yn sicrhau bod gwaith y British Council yn adlewyrchu blaenoriaethau Cymru ac yn helpu i lunio ei rhaglen yn y wlad.

Penodwyd yr Athro Davies i’r swydd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe ym mis Hydref 2003. O dan ei arweinyddiaeth mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu agenda uchelgeisiol ar gyfer newid, gan adeiladu ar ei chryfderau a denu buddsoddiad allanol sylweddol. Agorwyd Campws Bae newydd y Brifysgol gwerth £450m ar gyfer y gwyddorau ac arloesedd yn swyddogol ym mis Medi 2015. Yn ogystal â hyn, mae’r brifysgol wedi ehangu ei chysylltiadau rhyngwladol, gan ddenu myfyrwyr o dros 100 o wledydd, datblygu partneriaethau strategol gyda phrifysgolion mewn mannau arall o’r byd, yn ogystal â gweithio gyda nifer o gwmnïau mawr rhyngwladol.

British Council Wales logoDywedodd yr Athro Davies: “Mae gan bob Is-Ganghellor barch tuag at y British Council, ac nid wyf i’n wahanol gwbl. Rwyf wedi cael profiad llwyddiannus o gydweithredu gyda’r British Council o amgylch y byd, gan gynnwys yr UDA, Brasil, Dubai, Twrci, Iraq, Tsieina, De Korea, a Thailand.

“Fel aelod o’r’ Pwyllgor Cynghori rwyf wedi cael rhannu yn yr heriau a’r cyfleoedd sydd wedi dod o weithgareddau penodol y British Council sydd yn gysylltiedig a Chymru ac wedi fy ngwthio i dir newydd er mwyn gwerthfawrogi rôl gweithgar y British Council yn hyrwyddo egni diwylliannol arbennig Cymru yn rhyngwladol. Rwy’n edrych ymlaen at gynyddu fy nghyfraniad.”

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Rydym yn falch iawn bod yr Athro Davies wedi cytuno i dderbyn rôl y cadeirydd newydd. Rydym wedi croesawu ei gyngor hyddysg, ei arbenigedd a’i hwyliau da i’n Pwyllgor Cynghori am flynyddoedd maith ac rwyf i a’m tîm yn edrych ymlaen at weithio gydag ef i sicrhau bod Cymru yn manteisio ar ei asedau arbennig yn rhyngwladol.

Ganwyd yr Athro Davies yng Ngorllewin Cymru. Astudiodd Peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac enillodd PhD ym Mhrifysgol Bryste.