Her Buddsoddiad Cymunedol - Surfability: Stori enillydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ystod yr haf, lansiodd Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ei chystadleuaeth Her Buddsoddiad Cymunedol. Cynigiwyd cyfle i elusennau a busnesau lleol yn ardal Abertawe gystadlu i ennill gwobr arian o £25,000.

SurfabilityO'r chwith i'r dde:  Ben Clifford, Cyfarwyddwr Surfability gyda'r Athro Marc Clement, Deon yr Ysgol Reolaeth.

 

 

 

 

 

 

Meddai Deon yr Ysgol, yr Athro Marc Clement: "Fel rhan o'n Strategaeth newydd, mae'r Ysgol Reolaeth am fod yn ganolbwynt i'r gymuned, gan agor ei drysau i'r rhai sydd am ddod a rhoi cartref croesawgar ar gyfer cydweithio a thrafod. 

“Rydym am greu man lle gall perthnasoedd esblygu; amgylchedd ar gyfer sefydliadau o'r un meddylfryd sy'n rhannu ein gwerthoedd, lle gallwn ddod o hyd i ffordd gyda'n gilydd o wneud gwahaniaeth yn lleol ac yn fyd-eang." 

Gwahoddwyd ymgeiswyr llwyddiannus i Gampws y Bae i gyflwyno eu cynlluniau busnes yn y gobaith y byddant yn ennill y wobr arian. Llwyddodd cyfanswm o 7 broliant i gyrraedd y rhestr fer a rhoddwyd y cyflwyniad buddugol gan Surfability sef Cwmni Budd Cymunedol Bae Caswell sy'n gwneud syrffio yn hwyl ac yn gynhwysol i bobl ag anabledd ac sy'n helpu pobl anabl i brofi buddion niferus syrffio. 

Derbyniodd Surfability y wobr uchaf o £15,000 a gan ddefnyddio'r arian hwn mae'r Cyfarwyddwr Ben Clifford a'r tîm Surfability wedi adeiladu cyfleuster newydd ar draeth Caswell gan roi modd iddynt dyfu'r elusen; gan adeiladu rhywbeth sydd o werth go iawn i'r gymuned.

Agorodd Surfability ei eiddo newydd yn swyddogol y penwythnos diwethaf ac wrth siarad am yr Her Buddsoddiad Cymunedol, meddai Ben Clifford: "Roedd yn beth gwych i gymryd rhan yn Her Buddsoddiad Cymunedol yr Ysgol Reolaeth ac roedd ennill y gystadleuaeth yn rhagorol! Rydym wedi defnyddio'r wobr arian i adeiladu Canolfan Canthed ar gyfer Syrffio Addasedig sef y ganolfan gyntaf ar gyfer syrffio addasedig yng Nghymru.

"Ein nod yn Surfability yw gwneud syrffio mor hygyrch â phosib i bobl sydd ag anghenion ychwanegol o ganlyniad i anabledd, salwch neu anabledd.  I wneud hyn rydym yn defnyddio cyfarpar arbenigol a thechnegau hyfforddi yn ogystal â derbyn llawer o gymorth gan wirfoddolwyr. Mae pobl sydd â lefel isel o symudedd yn ei chael yn anodd gwisgo gwisg wlyb felly mae gan yr adeilad fwrdd newid i wneud y broses yn haws.

"Enghraifft arall o hyn yw bwrdd syrffio tandem gyda seddi a ddatblygwyd gennym ni at ddefnydd defnyddwyr cadeiriau olwyn.  Mae'r bwrdd syrffio ei hun yn 12 troedfedd o hyd felly mae peidio â gorfod ei gario mor bell yn golygu bod gan ein hyfforddwyr fwy o egni i helpu pobl i syrffio.

"Rydym yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ein cymuned trwy alluogi pobl i gael mynediad at y traeth a'r cefnfor na fyddai modd iddynt gael mynediad ato fel arall. Mae'r gefnogaeth gan yr Ysgol Reolaeth yn golygu bod modd i ni wneud mwy byth."

"Roedd pob un o gystadleuwyr y rownd derfynol yn ymgeiswyr cryf ac roedd yn her wirioneddol i'r panel ddewis un enillydd a dau o'r rhai nesaf at y gorau yn unig" ategodd yr Athro Marc Clement.  

"Cyflwynodd yr enillydd, Ben Clifford, Cyfarwyddwr Surfability, froliant busnes cryf iawn ac roedd wedi'i alinio'n berffaith gydag agenda Iechyd a Lles yr Ysgol Reolaeth.  Roedd angerdd Ben at ei waith a'i ymrwymiad iddo yn amlwg ac roedd y gwahaniaeth ei fod eisoes wedi'i wneud i fywydau plant yn glir.

"Yn y diwedd, cynigiodd yr Ysgol Reolaeth wobr i bob un o gystadleuwyr y rownd derfynol.  Enillodd y tri ymgeisydd a ddaeth yn ail £5,000 yr un sef Discovery, Swansea Schools Football Association a Stepping Stones.  

"Dyfarnwyd £1,000 yr un i'r tri ymgeisydd arall a lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol sef Down to Earth, Peace Mala a Learn Through Music".