Gwobr o £10,000 i ymchwilydd ifanc sydd am roi terfyn ar brofi ar anifeiliaid

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Kate Chapman o’r Ysgol Feddygaeth wedi ennill Gwobr Lush werth £10,000 i roi terfyn ar brofi ar anifeiliaid.

Enillodd Dr Chapman o Ben-y-bont ar Ogwr y wobr Ymchwiliwr Ifanc ar gyfer datblygu prawf a allai o bosib cyfrannu at y gwaith o ddisodli’r arbrawf canser dwy flynedd ar gnofilod.

Mae’r prawf yn defnyddio cyfuniad o gelloedd dynol iach ac amrywiaeth o gemegolion profi, gan gynnwys cemegolion sy’n debyg i alcohol ac oestrogen, i asesu a oes gan y cemegolion hyn y potensial i achosi canser. Gobeithir y bydd y system newydd hon yn arwain at brofi diogelwch cemegolion effeithiol heb ddefnyddio anifeiliaid yn y dyfodol.

Mae Dr Chapman yn un o 15 o Ymchwilwyr Ifanc ledled y bydd sydd wedi ennill gwobr o £10,000.

Ar ôl derbyn y wobr yn seremoni wobrwyo Gwobr Lush yn Llundain yr wythnos diwethaf, meddai Dr Chapman: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill gwobr Ymchwilydd Ifan Gwobr Lush. Bydd y wobr ariannol yn fy ngalluogi i barhau â’r gwaith ymchwil rwy’n ei wneud er mwyn rhoi terfyn ar brofi ar anifeiliaid.”

 Dr Kate Chapman