Gallai ymchwil newydd i ddulliau rheoli biolegol helpu i reoleiddio lledaeniad Z

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu dull effeithiol newydd o reoli biolegol ar ffurf blastosborau ffwngaidd a allai helpu i reoli lledaeniad amrywiaeth o glefydau megis y dwymyn felen, Deng, Chikungunya ac, yn fwy diweddar, Zika, drwy ladd y mosgitos sy'n eu trosglwyddo.

Aedes aegypti mosquito Mae ymchwilwyr o Adran y Biowyddorau yn y Coleg Gwyddoniaeth, Universidade Estadual do Norte Fluminense, Rio de Janeiro, Brasil, a  Phrifysgol Adnan Menderes, Twrci, wedi canfod bod blastosborau'r ffwng,  Metarhizium brunneum sy'n bathogenaidd i bryfed, yn effeithiol wrth ladd larfau'r mosgito Aedes aegypti, a gellir eu defnyddio i reoli nifer a lledaeniad y math hwn o fosgito.  

Mae'r papur ymchwil, a gyhoeddwyd yng Nghyfnodolyn y Llyfrgell Iechyd Gyhoeddus yn manylu ar y ffordd mae'r blastosborau - sef sbôr ffwngaidd a gynhyrchir drwy flaguro - yn lladd larfau'r mosgito yn gyflym ac yn effeithiol.  Mae'r astudiaeth yn dangos bod blastosborau'n fwy angheuol na'r sborau conidia a ddefnyddiwyd i reoli larfau Aedes aegypti yn y gorffennol ac mae'n  egluro'r rheswm am hyn.

Dyma rai o ganfyddiadau'r ymchwil

  • infection of the aedes aegypti mosquito larvaeYn wahanol i sborau conidia, gall blastosborau heintio'r larfau mewn sawl ffordd, drwy'r bilen a thrwy'r perfeddyn.
  • Mae hyn yn achosi marwolaeth yn gyflym o fewn 12-24 awr.
  • Mae sborau conidia yn heintio'r larfau mewn ffordd wahanol a gallant gymryd rhwng 48 a 96 awr i achosi marwolaeth.
  • Mae blastosborau'n cynhyrchu mwcilag helaeth sy'n sicrhau bod llawer o sborau'n glynu wrth y bilen.
  • Mae potensial blastosbora i reoli larfau Aedes aegypti drwy raglenni rheoli poblogaeth mosgitos yn fwy.

Meddai'r Athro Tariq Butt a arweiniodd yr astudiaeth: "Mae'r math hwn o fosgito yn achosi Deng, un o'r clefydau sy'n datblygu gyflymaf ac, yn fwy diweddar, mae'n achosi'r firws Zika sydd wedi cael ei gysylltu â miloedd o namau geni dros y ddwy flynedd diwethaf ym Mrasil.  Mae'r clefydau hyn yn effeithio'n sylweddol ar boblogaeth y byd ac yn cael effaith ddifrifol ar iechyd dynol. Felly, mae ein canfyddiadau'n amserol, yn bellgyrhaeddol  ac mae ganddynt oblygiadau amlwg ar gyfer strategaethau i reoli Aedes aegypti drwy ddulliau biolegol.