Elusen caethiwed yn galw ar bwerau i Gymru er mwyn arwain y ffordd ar reoleiddio Terfynellau Betio Ods Penodedig (TBOPau) Fixed Odds Betting Terminals

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gan Gymru broblem gamblo. Yn ôl canfyddiadau Arolwg Wales Problem Gambling 2015, mae 4.5% o fechgyn rhwng 25 a 34 mlwydd oed yn bodloni'r meini prawf diagnostig ar gyfer problem gyda gamblo, gyda chyfran debyg yr ystyrir sydd mewn perygl o ddatblygu problem gyda gamblo.

Bet the OddsAr hyn o bryd mae’r cyfrifoldeb am  reoli hapchwarae dan swyddogaeth San Steffan, er bod y cyfrifoldeb ar gyfer TBOPau ar fin cael ei ddatganoli i'r Alban. Mae Curo’r Bwci, gwasanaeth trin dibyniaeth gamblo a leolir yng Nghymru, yn galw ar Lywodraeth y DU i roi'r cyfrifoldeb dros TBOPau i Gymru.

Yn ôl y Farwnes Morgan AC, a gyflwynodd welliant i'r Mesur Cymru i roi cyfrifoldeb i Gymru dros TBOPau, "Mae llawer o bobl sy'n agored i niwed yn cael eu denu gan y syniad o enillion uchel hyd at £500. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y peiriannau hyn yn gaethiwus iawn ac yn achosi difrod gwirioneddol a pharhaol i rheini sydd yn eu defnyddio.

"Mae Terfynellau Betio Ods Penodedig wedi dod yn broblem enfawr mewn cymunedau sy'n aml yn cael trafferth i ymdopi gyda dan fuddsoddiad a diweithdra uchel sy’n gwaethygu'r broblem o gamblo mwy nag unrhyw fath arall o fetio."

Simon DymondDywedodd Dr Simon Dymond (chwith), Darllenydd mewn Seicoleg, Prifysgol Abertawe, "Mae'r cyfleoedd cynyddol i gamblo, boed hynny drwy aps neu mewn llefydd betio ar y stryd fawr, a’r tuedd cynyddol i dderbyn gamblo mewn hysbysebion sy’n gysylltiedig gyda digwyddiadau chwaraeon, yn golygu ei bod yn bellach yn bwysicach nag erioed i gynnal ymchwil i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed rhag datblygu problemau gyda gamblo a darparu cymorth lle mae ei angen fwyaf.

"I'r graddau hynny, mae’r adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Llywodraeth drwy’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar TBOPau yn golygu y gall newid deddfwriaethol sydd mawr ei angen dod i ddiogelu cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol rhag effeithiau niweidiol a hawdd eu cyrraedd gemau fel hyn."

Ychwanegodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd sy'n rhedeg y fenter Curo’r Bwci, “Amcangyfrifir y gyfradd o’r rheini sydd gyda phroblem gamblo yng Nghymru i fod yn 1.1% o'r boblogaeth. Am wlad o faint Cymru, mae hwn yn nifer frawychus o uchel. Y neges a gaf gan rheini sydd yn dod ataf am gymorth yw bod TBOPau yn arbennig o beryglus oherwydd eu bod mor gaethiwus. Mae'r neges yn cael ei ailadrodd drosodd a throsodd mewn sylwadau sy'n dweud wrthyf ei fod yn debyg i 'clefyd hyll', 'fel cyffuriau', yn arferiad sy'n dod dim llawenydd, rhywbeth sy'n fachu chi mewn ac yn eich sugno i mewn.

“Mae'n hanfodol, felly, bod Cymru yn derbyn yr un driniaeth ag Alban er mwyn i'r wlad i fynd i'r afael â melltith yr epidemig TBOPau a'u heffaith ar ein cymunedau."