Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe i gynnal cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe wedi’i gwahodd i weithredu ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wrth ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd darpariaeth yr Academi yn arddel y brand a’r enw, Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe.

Mae Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe ymhlith un ar ddeg o ddarparwyr sydd wedi’u gwahodd i weithredu ledled Cymru ar ran y Ganolfan, sef y corff cynllunio newydd sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y maes.  Bydd y drefn newydd, a ddaw i rym ar 1 Awst, yn adeiladu ar y gwaith pwysig a gyflawnwyd yn flaenorol gan chwech o ganolfannau Cymraeg i Oedolion.

Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe / Learn Welsh Swansea Bay Region Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Dyma’r tro cyntaf i gorff cynllunio cenedlaethol gydlynu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ac mae ein nod yn glir – denu dysgwyr newydd i’r Gymraeg a chynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe wrth i ni fynd ati i gydlynu’r ddarpariaeth, gan gyflwyno cwricwlwm ac adnoddau cyfoes a chyffrous a bod yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer yr holl wybodaeth am ddysgu’r Gymraeg.”

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: “Mae Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe yn cynnig cryn arbenigedd a phrofiad helaeth ym maes dysgu Cymraeg i oedolion ynghyd â dealltwriaeth drwyadl o anghenion dysgwyr yr ardal. Rydym yn falch o fedru cydweithio gyda’r Ganolfan i ddatblygu ymhellach y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr y Gymraeg ac i gynyddu nifer y siaradwyr yn ein hardal a thu hwnt.”

Bydd digwyddiad anffurfiol i lansio’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael ei gynnal am 2.00pm ar ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf ym Maes ‘D’ ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau.

Mae rhestr lawn o gyrsiau Cymraeg i Ddechreuwyr hyd at Lefel Uwch Ardal Bae Abertawe ar gael ar wefan www.dysgucymraeg.cymru a llyfryn Cyrsiau i Ddechreuwyr ar gael nawr.