Cynhadledd Ryngwladol Cysylltedd Data Poblogaeth yn Agor ei Drysau yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae mwy na 450 o wyddonwyr data o ugain gwlad ar draws chwe chyfandir yn dod i Abertawe i gymryd rhan mewn cynhadledd ryngwladol wythnos o hyd sy'n arddangos datblygiadau arloesol ym maes ymchwil cysylltedd data poblogaeth.

Cynhelir Cynhadledd Ryngwladol Cysylltedd Data Poblogaeth 2016 (IPDLC 2016) ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe o 22 tan 26 Awst, a bydd ymchwilwyr, llunwyr polisi, ymarferwyr, rheoleiddwyr a gwarchodwyr data o ledled y byd yn dod at ei gilydd i drafod ymchwil gan ddefnyddio data cysylltiedig ac arfer gorau ar y thema, 'Cysylltu Data – Gwella Bywydau'.

Trefnir IPDLC 2016 gan y Rhwydwaith Rhyngwladol Cysylltedd Data Poblogaeth (IPDLN), sefydliad rhyngwladol sy'n hwyluso cyfathrebu rhwng canolfannau sy'n arbenigo mewn cysylltedd data. Trefnir y gynhadledd ar y cyd gydag endidau ymchwil blaenllaw yn y Deyrnas Unedig: Sefydliad Farr ar gyfer Ymchwil Gwybodaeth Iechyd a'r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol (ADRN). Cynhelir y gynhadledd gan Fanc Data SAIL (Academi Cynwysoldeb a Chymorth Dysgwyr Abertawe) ym Mhrifysgol Abertawe.

data graphicBydd IPDLC 2016 yn dechrau gyda dau ddiwrnod o weithdai cyn y gynhadledd, gan gynnwys Ysgol Haf ymchwilwyr gyrfa gynnar a PhD, gyda'r brif gynhadledd yn rhedeg o ddydd Mercher, 24 Awst tan ddydd Gwener, 26 Awst.

Gyda nifer o siaradwyr cyweirnod enwog sy'n adnabyddus yn rhyngwladol yn manylu ar gynnydd cysylltedd data yn eu gwlad, bydd y gynhadledd hon yn cynnwys 330 o gyflwyniadau eraill hefyd dros y tri diwrnod, gyda chyfuniad o gyflwyniadau llafar, cyflwyniadau cyflym a chyflwyniadau poster amlgyfrwng arloesol.

Mae rôl cyfarwyddwr IPDLN yn newid bob dwy flynedd. Y Cyfarwyddwr yn 2015-16 yw'r Athro David Ford, Cyfarwyddwr Banc Data SAIL a'r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol (ADRN).

The Great HallLlun:  Neuadd Fawr, Campws y Bae, lle mae'r cynhadledd yn cael ei gynnal

Wrth edrych ymlaen at y gynhadledd, dywedodd yr Athro David Ford o Brifysgol Abertawe:

"Mae'r digwyddiad yn adeiladu ar hanes cynadleddau IPDLN ledled y byd, ac mae'n fraint ac yn anrhydedd i Abertawe ei chynnal eleni. Mae Cymru wedi neilltuoli'i hun yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol drwy fod ar flaen y gad o ran datblygiadau ym maes ymchwil cysylltedd data diogel am nifer o flynyddoedd.

Mae tirwedd cysylltedd data y Deyrnas Unedig a’r endidau ymchwil, yr ydym yn falch iawn o'u cael yma, wedi dylanwadau’n sylweddol ar gynhadledd eleni.

Drwy gydweithio â’n cydweithwyr rydym wedi creu cynhadledd a fydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu am gynnydd, technegau ac ymagweddau cyffrous pobl eraill drwy raglen hynod ysgogol, addysgiadol a defnyddiol o sgyrsiau gwyddonol, sesiynau cyflym a chyflwyniadau poster amlgyfrwng, ac i gydweithio’n fyd-eang o fewn y gymuned cysylltedd data."

Bay Campus‌Llun:  Campws y Bae, Prifysgol Abertawe

Mae IPDLN yn hwyluso cyfathrebu rhwng canolfannau sy’n arbenigo mewn cysylltedd data a defnyddwyr data cysylltiedig.

Cysylltedd data yw defnydd eilaidd data gweinyddol cysylltiedig, ac mae’n offeryn amhrisiadwy ar gyfer ymchwil poblogaeth sy’n rhoi darlun diduedd o’r boblogaeth gyfan ac yn caniatáu ar gyfer cynnal ymchwil a all gael effaith gadarnhaol ar ddinasyddion a chymdeithas na fyddai’n bosib heb dechnegau cysylltedd data.

Mae cysylltedd data’n defnyddio technoleg flaengar i ddatblygu isadeiledd a datrysiadau dadansoddol ar gyfer rheoli, curadu a rhoi mynediad diogel at ddata mawr gan ddefnyddio mesurau rheoli cymesur ar gyfer defnydd a phreifatrwydd data.