Cynhadledd Gwyddorau Cymdeithasol fwyaf Cymru yn dod i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd cynhadledd Gwyddorau Cymdeithasol fwyaf Cymru yn cymryd lle ar gampws newydd Prifysgol Abertawe heddiw, Campws y Bae.

Mae’r gynhadledd bellach yn ei seithfed flwyddyn, ac mae cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn dod ac ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi, a gwyddonwyr cymdeithasol at ei gilydd i drafod themâu megis iechyd; gofal cymdeithasol; lles; addysg; diwylliant & gwerthoedd; yr amgylchedd; y farchnad lafur; datganoli a’r gymdeithas sifil.

Cafodd y digwyddiad ei sefydlu fel rhan bwysig o’r calendr gwyddorau cymdeithasol, ac fe fydd ymchwilwyr academaidd a di-academaidd o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn rhannu eu hymchwil fel rhan o’r gynhadledd. Mae’r digwyddiad yn gyfle unigryw i unrhyw un a diddordeb mewn materion cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cyfoes yng Nghymru a thu hwnt, gyda dros 70 o bapurau yn cael eu cyflwyno eleni.

Mae pedwar siaradwr cyweirnod yn penawdu’r gynhadledd deuddydd; Ottón Solís, Arlywydd ac ymgeisydd arlywyddol deirgwaith i Batri Gweithredu’r Dinasyddion (Partido Accion Cindadana) yn Costa Rica; Yr Athro Andrew Oswald, Athro mewn Economeg, Prifysgol Warwick; Mike Hout, Athro mewn Cymdeithaseg, Prifysgol Efrog Newydd a David Grusky, Athro mewn Cymdeithaseg, Prifysgol Stanford.

Bydd y cyn brif weinidog, yr anrhydeddus Rhodri Morgan yn agor y digwyddiad gydag araith sy’n dwyn y teitl ‘Y cydbwysedd rhwng Gwasanaethau a Chynhyrchu ac adferiad Economi Cymru’.

Bydd y gynhadledd yn cymryd lle ar Ddydd Mercher, 13eg a Dydd Iau, 14eg o Orffennaf, ym Mhrifysgol Abertawe.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Jill Wilmott-Doran

Swyddog Cyfathrebu, WISERD

E-bost: Wilmott-DoranJ@cardiff.ac.uk <mailto:Wilmott-DoranJ@cardiff.ac.uk>  

Ffôn: 029 2087 0026

Gwybodaeth am WISERD

Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD)yn 2008. Ei nod oedd dod ag arbenigedd ym meysydd dulliau a methodolegau ymchwil mesurol ac ansoddol ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe ynghyd, ac adeiladu arno.  Mae WISERD yn cynnal ymchwil a gweithgareddau cynyddu adnoddau sy’n hwyluso datblygiad seilwaith ymchwil ar draws y gwyddorau economaidd a chymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.  Ym Mhrifysgol Caerdydd y mae canolfan WISERD.  Gwefan: www.wiserd.ac.uk