Beirniaid yn cytuno yn unfrydol ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2016

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a noddir gan Brifysgol Abertawe, wedi cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, 22 Mawrth).

Ar ôl dwy awr a hanner o drafod, cytunodd y panel beirniadu ar y chwe chyfrol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Wedi’i gadeirio gan yr Athro Dai Smith o Brifysgol Abertawe, mae’r panel yn cynnwys Sarah Hall (awdur) yr Athro Kurt Heinzelman (bardd) Phylida Lloyd (cyfarwyddwr ffilm a theatr), Kamile Shamise (awdur), a’r Athro Owen Sheers (awdur, bardd a dramodydd).

Y rhestr fer:

  • Claire-Louise Bennett (Wiltshire, Lloegr), Pond, Fitzcarraldo Editions
  • Tania James (Washington, UDA), The Tusk that Did the Damage, Harvill Secker [UK] / Alfred A. Knopf [US]
  • Frances Leviston (Caeredin, Yr Alban), Disinformation, Picador
  • Andrew McMillan (Manceinion, Lloegr), Physical, Jonathan Cape
  • Max Porter (Llundain, Lloegr), Grief is the Thing with Feathers, Faber & Faber
  • Sunjeev Sahota (Sheffield, Lloegr), The Year of the Runaways, Picador

Dylan Thomas Prize shortlist 2016Lansiwyd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn 2006, ac mae'n un o'r gwobrau sydd â’r bri mwyaf i ysgrifenwyr ifanc. Mae wedi'i hanelu at hybu dawn greadigol amrwd ledled y byd. Mae'n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.

Caiff y Wobr gwerth £30,000 ei dyfarnu i'r gwaith llenyddol gorau sydd wedi'i gyhoeddi neu ei gynhyrchu yn Saesneg, wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau. Roedd Dylan Thomas, yr ysgrifennwr llencynnaidd hanfodol, yn ddelfrydol o addas i ysbrydoli awduron ifanc ym mhobman. Roedd ffresni ac uniongyrchedd ei waith ysgrifennu'n rhinweddau nas collodd erioed. Nod y Wobr yw sicrhau y bydd gan ddarllenwyr heddiw gyfle i gael blas ar fywiogrwydd a fflach cenhedlaeth newydd o ysgrifenwyr ifanc

Meddai Dai Smith, cadeirydd y panel beirniadu: “Wedi 2.5 awr o drafodaethau bywiog, roedd y beirniaid â’r dasg anodd o ddewis 6 darn o waith i fynd ymlaen at y rhestr fer o faes eithriadol o uchel. Does dim angen dweud, felly, bod y dewis terfynol, wedi’i gytuno’n unfrydol, yn dangos casgliad o ffurf, genre a chyflawniad syfrdanol gan ysgrifenwyr mor ifanc. Mae’r rhestr fer yn dal sylw, yn eclectig ac yn hollol egnïol.”

Ychwanegodd yr Athro Kurt Heinzelman: “Mae beirniadu Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn llawer anos nag unrhyw wobr lenyddol arall yr wyf wedi'i beirniadu erioed. Y rheswm am hyn yw bod y Wobr yn agored i bob awdur iaith Saesneg dan 40 oed, ni waeth beth yw eu tarddiad cenedlaethol, ac ar ben hynny, mae'n agored i bob dosbarth hefyd, am fod Dylan Thomas ei hun wedi rhagori mewn sawl dosbarth. O ganlyniad, rhaid i mi feirniadu rhwng, er enghraifft, llyfr 60 tudalen o farddoniaeth a nofel 800 tudalen, neu rhwng ysgrifennu arbrofol neu anhraddodiadol a storïau campus mewn cywair naturiolaidd. Rwyf wedi bod yn feirniad ym mhob un o ddeng mlynedd y Wobr, a gallaf ddweud mai'r rhestr eleni yw'r gorau a'r mwyaf amrywiol o ran arddull.”

Datgelir yr enillydd mewn seremoni arbennig yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe ar 14 Mai, sef Diwrnod Dylan Thomas.