“Arwydd o'n cynnydd a'n huchelgais”: Prifysgol Abertawe yn ailgyflwyno graddau Cemeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe'n ailgyflwyno graddau Cemeg o 2017, ar ôl bwlch o ddeuddeg blynedd, yn dilyn trafodaethau gyda'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol

Cemeg ‌Disgrifiodd yr Is-ganghellor yr Athro Richard B. Davies y symudiad fel “arwydd o gynnydd, uchelgais a hyder Abertawe”, yn sgil y Brifysgol yn cyrraedd y 25 uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran ymchwil.

‌Mae rhaglenni BSc a MChem Cemeg newydd wedi'u sefydlu, gan ganolbwyntio ar ragoriaeth addysgu, profiad y myfyrwyr a chyflogadwyedd.

‌Er y cânt eu haddysgu yn y Coleg Gwyddoniaeth, bydd gan y rhaglenni gysylltiadau cryf â pheirianneg a meddygaeth. Bydd y myfyrwyr yn dysgu'r wybodaeth eang sy'n ofynnol er mwyn gweithio ym maes Cemeg yn broffesiynol, gan gynnwys sgiliau labordy a rhoi'r wybodaeth ddofn i'w galluogi i arbenigo mewn meysydd penodol.

Mae gan Brifysgol Abertawe arbenigedd helaeth mewn cemeg eisoes, gyda chemegwyr mewn rolau allweddol yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, prosiect y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) i ddylunio deunyddiau ynni adnewyddadwy, y Ganolfan NanoIechyd, Adran Biogemeg yr Ysgol Feddygaeth, Peirianneg Biogemegol a'r Sefydliad Sbectrometreg Màs.

Diolch i gysylltiadau cryf y Brifysgol â diwydiant, gall myfyrwyr fynd ar leoliad gwaith gyda chwmnïau yn y maes, gan wella'u cyflogadwyedd, yn ogystal â gallu dewis treulio blwyddyn mewn diwydiant, fel llawer o fyfyrwyr eraill yn y Coleg Gwyddoniaeth. Ar hyn o bryd, Prifysgol Abertawe yw'r gorau yng Nghymru ac mae yn safle 16 yn y Deyrnas Unedig o ran graddedigion yn ennill swydd lefel broffesiynol.

Mae cyfleoedd ar gyfer astudio ôl-raddedig yn y gwyddorau cemegol eisoes ar gael yn Ysgol Feddygaeth a Choleg Peirianneg y Brifysgol. Caiff cyfleoedd pellach eu creu yn yr Adran Gemeg newydd nawr.

Peidiwyd â chynnig graddau Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2004, ar adeg pan nad oedd pynciau gwyddoniaeth a thechnoleg mor boblogaidd. Cyflwynir y graddau newydd ar adeg pan fo'r galw am raddau Cemeg yn cynyddu: roedd cynnydd o 4% yn y nifer o fyfyrwyr israddedig a gofrestrodd i astudio'r pwnc yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae'r Coleg Gwyddoniaeth, a fydd yn gartref i'r Adran Gemeg, yn tyfu'n gyflym hefyd: bu cynnydd o 15% yn y nifer o geisiadau israddedig yn 2015/16, ar ben cynnydd o 20% yn 2014/15.

Engineering-project-specificMeddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B. Davies: “Mae ailgyflwyno graddau Cemeg yn arwydd o gynnydd, hyder ac uchelgais Prifysgol Abertawe. Mae'r Brifysgol wedi newid ac mae'r byd wedi newid er 2004. Mae Prifysgol Abertawe mewn safle llawer gwell. Rydym bellach yn un o'r 25 o brifysgolion gorau yn y Deyrnas Unedig o ran ymchwil. Mae gennym lawer mwy o le, gyda champws cyfan newydd gwerth £450 miliwn, ac mae ceisiadau i astudio yn cynyddu'n gyflym. Mae'r cyd-destun ehangach wedi newid hefyd, gyda galw uwch am gemeg a phynciau gwyddonol eraill, gan gynnwys gan fyfyrwyr tramor.

"Golyga hyn oll mai dyma'r amser cywir i adfer Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe. Croesawaf gefnogaeth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a'r gymuned wyddonol ehangach wrth i ni wneud y penderfyniad hwn.”

Meddai'r Athro Syr John Meurig Thomas, cyn-Gyfarwyddwr Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr a chyn-Bennaeth Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt, a chyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe: “Rwy'n hynod falch bod Prifysgol Abertawe wedi buddsoddi mewn ailgyflwyno graddau Cemeg a'i bod yn ymroddedig i ddefnyddio'i harbenigedd, ei chyfleusterau gwych a'i chysylltiadau â diwydiant i roi cyfle i genhedlaeth newydd o fyfyrwyr cemeg ddilyn gyrfa mewn ymchwil neu ddiwydiant.”

Meddai'r Athro Steve Wilks, Dirprwy Is-ganghellor Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe: “Rydym yn hynod falch o allu cynnig Cemeg fel pwnc yn y Coleg Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe, yn dilyn ein trafodaethau gyda'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Mae hon yn fenter ryngddisgyblaethol a gefnogir gan y Colegau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Meddygaeth. Mae gennym lawer o arbenigedd yn y pwnc ar draws y Brifysgol eisoes, ac mae brwdfrydedd go iawn am ei ailgyflwyno.

"Bydd yr Adran Gemeg newydd gwerth miliynau o bunnoedd yn creu cyfleuster ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf. Bydd gan ein myfyrwyr fynediad at labordai ardderchog a maes llafur modern. Bydd yn ehangu ac yn cryfhau uchelgais y Coleg a'r Brifysgol, ac yn hybu'r arbenigedd sydd ar gael yn y rhanbarth.”