Academydd o Abertawe yn ennill gwobr fawreddog

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr fawreddog am ei waith ym maes mecaneg gyfrifiadol.

Dr Antonio Gil

Yn dilyn gweithdrefn bleidleisio a oedd yn cynnwys dwy rownd, etholodd Y Gymuned Ewropeaidd ar Ddulliau Cyfrifiadol mewn Gwyddorau Cymhwysol Dr Antonio J. Gil o’r Coleg Peirianneg i dderbyn Gwobr O. C. Zienkiewicz ar gyfer Gwyddonwyr Ifainc yn y Gwyddorau Peirianneg Cyfrifiadol 2016.

Mae’r wobr yn un o’r rhai mwyaf mawreddog ym maes mecaneg gyfrifiadol a chafodd ei dyfarnu i Dr Gil i gydnabod cryfder a rhagoriaeth ei broffil ymchwil rhyngwladol a’r effaith y mae ei ymchwil yn ei chael yn rhyngwladol.

Meddai Dr Gil: “Teimlaf yn ddiolchgar i dderbyn y wobr hon. Mae’n galonogol gweld sut mae’r Gymuned Ewropeaidd ar Ddulliau Cyfrifiadol mewn Gwyddorau Cymhwysol yn cydnabod yr ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang rydym yn ei datblygu yn fy ngrŵp. Gobeithiaf mai’r cam cyntaf ar drywydd rhagor o ymchwil gwych yw hwn”.

Enwir y wobr ar ôl Yr Athro Olek Zienkiewicz a ymunodd â Phrifysgol Abertawe ym 1961 fel Pennaeth yr Adran Beirianneg Sifil a fu’n Athro Emeratws yn y Brifysgol nes iddo farw yn 2009. Caiff yr Athro Zienkiewicz ei adnabod yn rhyngwladol fel "Tad Dull yr Elfen Feidrol", sef techneg modelu cyfrifiadol sy’n galluogi peirianwyr i ddylunio strwythurau, awyrennau neu elfennau a phrosesau eraill sy’n fwyfwy heriol gan ddefnyddio cyn lleied o brofi arbrofol drud â phosib.

Mae Prifysgol Abertawe yn gartref i Ganolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol, lle y mae Dr Gil wedi’i leoli ac sy’n cael ei harwain gan Yr Athro P Nithiarasu, a enillodd Wobr O. C. Zienkiewicz ei hun yn 2004.