Ymchwilwyr yn taflu goleuni ar y llwybr at ynni solar cost isel

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe wedi mynd cam ymhellach tuag at wneud ynni solar cost isel yn realiti drwy leihau’r amser y mae’n ei gymryd i wneud math newydd o gell solar o 90 munud i 3 eiliad yn unig.

Specific logo

Mewn papur a gyhoeddwyd heddiw, mae ymchwilwyr SPECIFIC yn dangos bod eu dull cynhyrchu newydd yn defnyddio hwrdd byr o ymbelydredd lled-is-goch – ymbelydredd is-goch sydd agosaf at olau gweladwy o ran tonfedd – i sbarduno twf crisialau perovskite, y cynhwysyn gweithredol sy’n troi pelydrau’r haul yn drydan.

Meddai’r gwyddonydd arweiniol Joel Troughton “Bob dydd cawn ddigon o ynni gan yr haul i bweru ein planed am 27 mlynedd. Pe bai modd i ni ddal hyd yn oed fymryn o’r ynni hwnnw, byddai modd i ni ddatrys yr argyfwng ynni. Mae crisialau perovskite yn bwnc ymchwil ddwys ar hyn o bryd gan eu bod yn gost isel ac yn effeithlon iawn wrth droi goleuni’r haul yn drydan, hyd yn oed mewn gwledydd golau isel megis y DU.”

Ychwanegodd Dr Trystan Watson “Mae’r celloedd solar silicon a welwch ar doeau ar draws y wlad bellach yn cyrraedd oddeutu 25% o ran effeithlonrwydd, ac maent wedi gwella o oddeutu  23% ddegawd yn ôl. I’r gwrthwyneb, mae effeithlonrwydd celloedd perovskite wedi neidio o 5% i 17% mewn dim ond dwy flynedd.

“Hefyd maent yn costio llawer llai na chelloedd silicon, felly gorau po gyntaf y bydd modd masnacheiddio celloedd perovskite er mwyn i bob un ohonom elwa o gael ynni solar cost isel. Er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid bod modd eu cynhyrchu’n rhwydd ac yn rhad – dyna pam bod y gwaith hwn i gael gwared â thagfa brosesu fawr mor bwysig.”

Hyd yn hyn bu’r gwaith o grisialu’r perovskite yn digwydd mewn ffwrn gonfensiynol am 100oC, sy’n cymryd hyd at 90 munud ac yn defnyddio llawer o bŵer, gan wneud y gost weithgynhyrchu’n rhy uchel i fod yn dderbyniol o safbwynt masnachol.

Cyhoeddwyd y gwaith yn y Journal of Materials Chemistry A gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Ymgymerwyd â’r gwaith yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, sy’n gonsortiwm rhwng Prifysgol Abertawe, Tata Steel, BASF ac NSG Pilkington ac fe’i ariennir gan EPSRC, Innovate UK a Llywodraeth Cymru, ac fe’i ariennir gan raglen Solar Sêr Cymru Llywodraeth Cymru.