Sialens arloesol i ddisgbyblion yng Nghymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yr wythnos hon, mae dros 200 o ddisgyblion o ysgolion dewisol yng Nghymru wedi dechrau cystadlu ar Supersonic Cymru, sialens arloesol ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 3 i dorri Record y Byd am Gyflymder ar Dir gan ddefnyddio cyfrifiadura perfformiad uchel.

Bloodhound badgeDan arweiniad Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru, mae’r Sialens yn rhoi mynediad i’r holl ddisgyblion sy’n cymryd rhan at borthol gwe sy’n cynnwys meddalwedd dadansoddi aerodynameg o’r radd flaenaf sy’n rhedeg ar rwydwaith uwchgyfrifiadura cenedlaethol HPC Cymru.  Mae’r feddalwedd, sy’n seiliedig ar ddyluniad y Car Bloodhound Supersonic ac a sefydlwyd gan SME Cymreig Zenotech, yn galluogi cyfranogwyr i addasu’n systematig baramedrau dyluniad y car a dadansoddi data pellter, cyflymder a chyflymiad ar-lein, ac ar yr un pryd gynnal arbrofion dosbarth i ddeall sain ac aerodynameg i greu model sy’n addas i dorri’r Record Cyflymder ar Dir.

Bydd disgyblion yn gweithio ag athrawon a pheirianwyr i brofi ac addasu eu dyluniau cyn seremoni o gyflwyno a gwobrau ym mis Mai.  Bydd y timau buddugol yn cael cynnig cyfle cyffrous i gyfarfod â’r peirianwyr a gweld y car yn cael ei ddatblygu’n ddiweddarach yr haf hwn, cyn iddo gychwyn ar ei daith i’r Hakskeen Pan yn Ne Affrica am dri mis o brofion cyflymder uchel.

Fe nodir agor y Sialens mewn digwyddiad arbennig ym Mhenwythnos Wyddoniaeth Genedlaethol Techniquest y dydd Sul hwn ar gyfer disgyblion sy’n cyfranogi a’u teuluoedd.  Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i gael gwybod mwy am y Sialens gyffrous, i fynd i Sioe Bloodhound, a siarad â Pheiriannwr CFD Bloodhound, Dr Ben Evans.  Bydd  ymwelwyr â Techniquest yn gallu mynd i’r Sioeau Bloodhound hefyd a phrofi’r teimlad o gyflymder 1,000mya yn y ‘Bloodhound Supersonic Simulator’.

Wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, mae HPC Cymru’n arwain y prosiect  Supersonic Cymru gyda sawl sefydliad yn rhan o Her Ysgolion Cymru, sy’n canolbwyntio ar ysgolion Llwybrau Llwyddiant.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis AC: “Mae technoleg yn cyffwrdd â phob agwedd ar waith heddiw ac mae’n bwysig bod pobl ifanc yn sylweddoli ac yn deall y gyrfaoedd sydd ar gael iddyn nhw yn y sectorau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch.  Bydd y Sialens hon yn rhoi profiad uniongyrchol o arfau peirianneg bywyd go iawn i’w disgyblion ac ystod o brofiadau a fydd yn eu hysbrydoli, eu hysgogi ac o fudd iddyn nhw yn y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect Supersonic Cymru’n esblygu ac yn y pen draw rwy’n gobeithio y bydd tîm o Gymru’n llwyddo i rith-ddylunio’r car sy’n torri’r record cyflymder ar dir o 1,000mph.”

Meddai Dr Ben Evans, Peiriannydd CFD yn Bloodhound: ‘Mae’r Prosiect  Bloodhound yn ymwneud ag ysbrydoli cenhedlaeth newydd o beirianwyr a gwyddonwyr.  Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at siarad â’r disgyblion a’u rhieni am Supersonic Cymru'r penwythnos hwn; mae’r Sialens yn rhoi cyfle cyffrous i ddisgyblion ysgol gael profiad ymarferol o’r feddalwedd sydd wedi ei defnyddio i ddylunio’r jet 1,000mya a’r car sydd wedi’i bweru â roced.

“Mae Supersonic Cymru’n gyfle ardderchog i ddisgyblion fynd i graidd antur beirianegol ffantastig y Car Uwchsonig Bloodhound.’