Rôl allweddol academydd o Abertawe yng nghynllun pum mlynedd newydd LlC i leihau hunan-niwed a hunanladdiad yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynllun pum mlynedd newydd i leihau hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru gyda'r bwriad o ymgynghori arno.

Mae Siarad â Fi 2, sy'n adeiladu ar gynllun cyntaf Siarad â mi a lansiwyd yn 2009, wedi cael ei ddatblygu gan y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar atal Hunanladdiad a Hunan-niwed. 

Bu cadeirydd y grŵp, Ann John, Athro Cysylltiol yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe ac ymgynghorydd ar feddygaeth iechyd cyhoeddus gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn arwain y gwaith o lunio'r strategaeth. Cafwyd cyfraniadau gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys y Samariaid, MIND Cymru, Cruse, Papyrus, yr Heddlu a'r gwasanaethau iechyd.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar y strategaeth mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Llun 5 Ionawr yng nghangen Caerdydd a'r Rhanbarth y Samariaid gan y Gweinidog iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford. Bu Ann John, Athro Cysylltiol yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe'n annerch y cyfarfod hefyd.

Yn rhagair y Gweinidog i Siarad â Fi 2, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: "Diolchaf i’r Athro Cyswllt Ann John a fu’n arwain y Grŵp Cynghori Cenedlaethol yn ei waith i ddatblygu’r strategaeth hon a’r cynllun gweithredu cysylltiedig. Cymeradwyaf y ddau i chi ac edrychaf ymlaen at weld gwasanaethau’n datblygu ac yn gwella ymhellach."

Meddai Ann John: "Mae hunanladdiad yn ganlyniad nifer o ffactorau risg gwahanol sy'n rhyngweithio mewn ffyrdd cymhleth.

"Oherwydd hyn, i atal hunanladdiad, mae'n hanfodol bod nifer o sefydliadau'n gweithredu ar draws sectorau. Dyna pam mae strategaethau cenedlaethol i atal hunanladdiad yn elfen allweddol wrth leihau hunanladdiad. Maent yn sefydlu'r fframwaith strategol sy'n angenrheidiol i weithredu amrywiaeth o strategaethau'n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol, mewn ffordd gydlynol.

"Mae'n fraint bod yn rhan o ddatblygu'r strategaeth a'r cynllun gweithredu newydd ar gyfer Cymru gyda'r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed."

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw oherwydd hunanladdiad - oddeutu teirgwaith y nifer sy'n marw mewn damweiniau ffordd. Ceir tua 5,500 o dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd hunan-niwed bob blwyddyn.

Mae Siarad â fi 2, yn amlinellu'r nodau a'r amcanion strategol i atal a lleihau hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru rhwng 2014 a 2019. Mae hefyd yn ategu ac yn adeiladu ar Llaw yn Llaw at Iechyd Meddwl a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Mae'n nodi'r grwpiau hynny o bobl sydd mewn perygl hunanladdiad a hunan-niwed ac mae'n amlinellu'r gofal y dylent ei dderbyn, a hynny yn y lle cywir ar yr adeg gywir.

Cyhoeddwyd Siarad â fi 2 ar 12 Rhagfyr 2014 a chynhelir ymgynghoriad 12 wythnos arno a fydd yn cau ar 5 Mawrth 2015.

Dyma rai o'r gweithgareddau atal hunanladdiad a hunan-niwed a fydd yn flaenoriaeth dros y pum mlynedd nesaf yng Nghymru:

  • Lleihau mynediad i ddulliau hunanladdiad;
  • Darparu ymatebion priodol i argyfyngau personol, ymyrryd a rheoli hunanladdiad a hunan-niwed yn gynnar;
  • Gwella ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niwed ymhellach ymhlith y cyhoedd; pobl sy'n cael cysylltiad rheolaidd â'r rhai sydd mewn perygl hunanladdiad a hunan-niwed ac ymarferwyr proffesiynol yng Nghymru;
  • Darparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad neu mae hunanladdiad a hunan-niwed wedi effeithio arnynt;
  • Cefnogi'r cyfryngau i bortreadu hunanladdiad a hunan-niwed mewn modd cyfrifol;
  • Parhau i hyrwyddo a chefnogi systemau dysgu, gwybodaeth a monitro ac ymchwil i wella dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru ac arwain camau gweithredu.

Meddai Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Fel arfer, mae hunanladdiad yn ymateb i gyfres gymhleth o ffactorau, rhai personol a rhai sy'n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol a chymunedol ehangach. Mae'n drasiedi i bawb ac yn achos gofid i lawer o bobl - yr unigolyn, y teulu, ffrindiau, ymarferwyr proffesiynol a'r gymuned ehangach.

"Amcangyfrifir bod hunanladdiad yn effeithio'n sylweddol ac yn uniongyrchol  ar o leiaf chwe pherson ar wahân i'r person sy'n marw. Gall effeithio ar lawer o bobl eraill yn anuniongyrchol hefyd. Gall colli rhywun drwy hunanladdiad fod yn hynod drawmatig ac yn anodd ymdopi ag ef; mae'r effeithiau'n seicolegol, yn ysbrydol ac yn economaidd.

"Nod ein strategaeth pum mlynedd yw hyrwyddo, cydlynu a chefnogi cynlluniau a rhaglenni i leihau hunanladdiad ac atal hunan-niwed yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.

"Mae atal hunanladdiad a hunan-niwed yn her fawr i bawb, ond ni all unrhyw sefydliad neu adran y llywodraeth ddatrys y broblem hon ar ei ben ei hun. Wrth roi Llaw yn Llaw at Iechyd Meddwl, y Mesur a Siarad â fi 2 ar waith, byddwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at atal hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru.


Os hoffech chi siarad â rhywun, ffoniwch y Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (CALL) ar radffôn 0800 132737 neu tecstiwch HELP a'ch cwestiwn i 81066.

Gallwch ffonio'r Samariaid hefyd ar 08457 909 090.