Prifysgol Abertawe yn ysbrydoli menywod ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni trwy dynnu sylw at ystod o fenywod llwyddiannus ac ysbrydoledig sydd wedi gweithio, astudio, a chefnogi Prifysgol Abertawe yn y gorffennol ac yn y presennol.

Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod bob blwyddyn ar 8 Mawrth fel arwydd o barch a gwerthfawrogiad at fenywod a chydraddoldeb rhywiol.

Drwy gydol fis Mawrth, bydd y Brifysgol yn amlygu 56 o fenywod ysbrydoledig gan gynnwys Mary Williams a oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi yn Athro mewn Prifysgol yn y DU pan ddaeth yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Ffrainc ym Mhrifysgol Abertawe yn 1921. 

Ymhlith menywod ysbrydoledig eraill i gael eu portreadu fydd Siwan Davies, Athro Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a’r Athro Hilary Lappin Scott, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe (ers 2010) yn ymwneud â datblygu Strategol a Pherthnasau Allanol a’r fenyw gyntaf i fod yn rhan o’r uwch dîm yn ystod y bron â bod 100 mlynedd o hanes y Brifysgol.

Meddai’r Athro Lappin-Scott:  “Mae Prifysgol Abertawe yn falch o ddathlu ein hunigolion dawnus trwy’r fenter Menywod Ysbrydoledig.

 “Rwy’n gefnogwr brwd o’r fenter gyffrous hon, sy’n rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2015, ac sy’n helpu i hyrwyddo menywod sy’n astudio ac yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe.”

Bydd y Brifysgol yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cynnwys lansio Gwobr Mary Williams 2015 sy’n croesawu enwebiadau gan bob aelod staff y Brifysgol sydd wedi cyfrannu at ddiwylliant a chymuned y Brifysgol, a sgyrsiau drwy gydol yr wythnos a roir gan fenywod amlwg gan gynnwys yr Athro Laura McAllister (Cadeirydd Chwaraeon Cymru) a chyflwyniad gan Christine Watson, enillydd Gwobr Mary Williams 2014.