Prifysgol Abertawe yn rhyddhau fideo newydd Campws y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw, (dydd Iau, 29 Ionawr), rhyddhaodd Prifysgol Abertawe fideo newydd o Gampws y Bae, datblygiad sy’n werth £450 miliwn, a fydd yn croesawu'r myfyrwyr cyntaf yno ym mis Medi 2015.

Mae'r fideo yn cynnwys delweddau trawiadol o’r adeiladau, ac fe’i trosleisir gan yr Athro Iwan Davies, Dirprwy-Is-ganghellor, sydd yn arwain datblygiad Campws y Bae. Mae’r sylwebaeth yn sôn am yr hyn mae’r datblygiad yn ei olygu i fyfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.

Ym mis Medi 2015, bydd Prifysgol Abertawe yn brifysgol dau gampws - y campws ym Mharc Singleton a Champws y Bae - wedi’i leoli mewn erwau o barcdir tawel ac ar dirwedd fawreddog Bae Abertawe.

Ar hyn o bryd, Campws y Bae Prifysgol Abertawe yw un o brosiectau datblygu mwyaf Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig.