Prif Weinidog Cymru'n agor Ardal Beirianneg Campws y Bae y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw (dydd Iau, 15 Hydref), bu'r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, yn ymweld â datblygiad gwyddoniaeth ac arloesi newydd Prifysgol Abertawe sy'n werth £450, Campws y Bae, i agor Ardal Beirianneg y Coleg Peirianneg yn swyddogol.

FM opens Engineering Quarter - main picMae'r Ardal Beirianneg wedi elwa o ddyfarniad ariannol sylweddol (€49.4m) ar gyfer adeiladau a chyfarpar gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.  Yn ogystal, mae'r Brifysgol wedi denu buddsoddiad o £60m gan Fanc Buddsoddi Ewrop - y tro cyntaf i'r Banc fuddsoddi yng Nghymru.

Wrth gyrraedd Campws y Bae, croesawyd y Prif Weinidog gan Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Richard B Davies, a Phennaeth y Coleg Peirianneg, yr Athro Javier Bonet, cyn dechrau ei ymweliad yn Adeilad Dwyreiniol Peirianneg, sydd â ffocws cryf ar y diwydiant gweithgynhyrchu.

Mae Adeilad Dwyreiniol Peirianneg yn gartref i'r Ganolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg sydd, ar y cyd â Chanolfan Arloesi Bae Abertawe, wedi cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys y prif gyfleusterau gweithdy ar gyfer y Coleg Peirianneg cyfan ac mae'n cefnogi disgyblaethau Peirianneg Sifil, Peirianneg Drydanol ac Electronig a Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Cyfarfu Prif Weinidog Cymru ag ymchwilwyr a myfyrwyr wrth iddo ymweld â rhai o gyfleusterau a chyfarpar peirianneg o safon fyd-eang y Brifysgol yn y Ganolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg a Chanolfan Arloesi Bae Abertawe, gan gynnwys Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru.

FM Flight Sim picYn dilyn y daith o Adeilad Dwyreiniol Peirianneg, bu'r Prif Weinidog yn ymweld ag Adeilad Canolog Peirianneg, sy'n canolbwyntio ar beirianneg uwch ac arloesi ac sy'n cefnogi disgyblaethau Peirianneg Awyrofod, Peirianneg Fecanyddol, Nanodechnoleg a Pheirianneg Gemegol, lle cafodd gyfle i weld yr Efelychydd Hedfan Merlin.

Yna gwahoddwyd y Prif Weinidog i ddadorchuddio plac llechen Gymreig o flaen staff, myfyrwyr a gwesteion gwadd, i agor y cyfleusterau'n swyddogol.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, "Roedd yn anrhydedd agor yr Ardal Beirianneg orffenedig yn swyddogol heddiw.

"Bydd y cyfleuster penigamp hwn, sydd wedi elwa o gymorth ariannol sylweddol gan yr UE, gan gynnwys £15m a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, yn darparu amgylchedd dysgu o safon fyd-eang a fydd yn denu ac yn datblygu'r myfyrwyr gorau o bedwar ban byd.

"Bydd yn ysgogi ymchwil ac arloesi ac yn cynyddu gallu Cymru i gystadlu'n fyd-eang ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu. Edrychaf ymlaen at glywed am lwyddiant parhaus yr Ardal Beirianneg hon a'r Campws yn gyffredinol am flynyddoedd maith i ddod."

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Dyma ddiwrnod hanesyddol i'r Coleg Peirianneg ac i Brifysgol Abertawe ac rydym yn diolch yn ddiffuant i Brif Weinidog Cymru am ei ymweliad â Champws y Bae i agor yr Ardal Beirianneg.

"Mae cysylltiadau ymchwil cydweithredol cryf â diwydiant wedi bod yn nodwedd arbennig o'r Coleg Peirianneg ers i'r Brifysgol gael ei sefydlu ym 1920, ac rydym ymysg y gorau yn y DU heddiw.  Mae'r Ardal Beirianneg wedi'i dylunio a'i chyfarparu i gefnogi cynnydd pellach mewn cydweithio yn y dyfodol, â phartneriaid presennol a rhai newydd yn fyd-eang, gan ysgogi arloesi, twf economaidd ac entrepreneuriaeth yn y rhanbarth.

"Bydd y cyfleusterau rhagorol yn yr Ardal Beirianneg yn cystadlu â rhai unrhyw brifysgol yn Ewrop.  Byddant yn ein galluogi i gynyddu maint ein Coleg Peirianneg drwy ddenu staff a myfyrwyr o'r radd flaenaf.

"Roedd yn bleser gennym groesawu cynrychiolwyr allweddol o Lywodraeth Cymru, sefydliadau proffesiynol a diwydiant i Gampws y Bae  heddiw, i ymuno â ni wrth lansio cyfnod cyffrous newydd i'r Brifysgol."

Meddai'r Athro Javier Bonet, Pennaeth y Coleg Peirianneg, "Dyluniwyd cyfleusterau sylweddol o'r radd flaenaf yr Ardal Beirianneg i fanteisio ar ein harbenigedd ymchwil a'n cydweithio cyfredol â chwmnïau rhyngwladol pwysig, gan gynnwys Rolls-Royce a Tata Steel, ac i ddarparu cyfle i dyfu er mwyn diwallu anghenion diwydiant ymhellach.

"Mae Coleg Peirianneg Abertawe yn gyson yn cael ei farnu ymysg y 10 gorau yn y DU.  Rydym yn ymdrechu'n barhaus i gyflawni rhagoriaeth yn ein haddysgu a'n hymchwil, a bydd yr Ardal Beirianneg yn ein galluogi i adeiladu ar ein llwyddiant presennol, drwy gyd-leoli diwydiant â'n staff academaidd a'n myfyrwyr er mwyn hwyluso ymchwil cymhwysol, arloesi cyflymach a chyfleoedd cyflogaeth

"Rydym yn hynod falch o'n llwyddiant a'n cyflawniad ers i'r Brifysgol gael ei sefydlu ym 1920 - ac rwy'n hyderus y bydd y Coleg Peirianneg yn Abertawe yn cael effaith hyd yn oed fwy yn y dyfodol."